Deall dwyieithrwydd mewn addysg: un gwraidd i lwyddiant addysgu dwyieithog

Read this page in English

enllibilingualteacherpicYn dilyn ymgais y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chynyddu’r nifer o unigolion sy’n ei defnyddio’n feunyddiol, mae mwy o bwyslais nag erioed ar ein hysgolion i gynhyrchu siaradwyr sydd yn hyderus ddwyieithog. Ond mae’r her o gynyddu siaradwyr a defnyddwyr o’r Gymraeg yn amrywio o un cyd-destun i’r llall – o un ardal i’r llall, o un ysgol i’r llall, o un cartref i’r llall, o un athro i’r llall, ac o un disgybl i’r llall – ac mae’n allweddol bod unrhyw strategaethau sy’n cael eu datblygu yn ddigon hyblyg i ganiatáu’r athro fedru ystyried yr amrywiadau hynny, a’r hyn sydd yn berthnasol ac yn briodol o fewn ei gyd-destun addysgol ei hun.

Gyda dyfodiad y cwriwcwlm newydd yn agosáu, nod unrhyw athro fydd helpu disgyblion adnabod eu gallu ieithyddol, a’u hannog i symud ymlaen, hyd eithaf eu gallu..  O ystyried fod pob siaradwr Cymraeg erbyn hyn yn ddwyieithog (gyda Saesneg gan amlaf) o oed gymharol gynnar, bydd nodweddion seicolegol, niwrolegol ac ieithyddol siaradwyr Cymraeg yn ymdebygu i rai siaradwyr dwy- ac amlieithog eraill led-led y byd, a bydd yn bwysig bod y nodweddion hynny yn cael eu cydnabod. . At hynny, os mai datblygu siaradwyr hyderus ddwyieithog yw’r nod, mae’n rhaid galluogi plant, rhieni ac athrawon adnabod ble mae’r plentyn o ran ei sgiliau dwyieithog.  Ond os am sicrhau’r cyfleoedd gorau i ddisgyblion gynyddu o ran eu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg (neu’r Saesneg i rai disgyblion) a pharhau i symud ar hyd  continwwm,  rhaid cynllunio cyfleoedd priodol a phwrpasol o fewn y cwricwlwm newydd i alluogi hynny ddigwydd.

Yn hynny o beth, mae hi’n gyfnod cyffrous iawn yma yng Nghymru ar drothwy cyfnod o newid mawr ym myd addysg. Dyma ein cyfle i berchnogi’r her, a mynd ati go iawn i arloesi o ran addysgu iaith leiafrifol. Ac rydym wedi cychwyn ar y daith. Oes, mae yna nifer o arferion da eisoes ar waith yn ein hysgolion sydd wedi arwain at lwyddiannau mawr o ran trosglwyddo’r Gymraeg i ddisgyblion o gartrefi di-Gymraeg ers blynyddoedd lawer – ac ni ddylid anghofio am yr arferion gwych hynny – ond nid yw’r llwyddiannau hynny yn ddigon cyson. At hynny, mae trosi’r rheiny sy’n medru siarad Cymraeg (hyd yn oed y rhai hynny sydd yn siaradwyr brodorol) i fod yn ddefnyddwyr parod o’r iaith, yn enwedig pan fo’r opsiwn i ddefnyddio Saesneg ym mhob man, yn broblem systemig sydd angen mynd at ei wraidd trwy’r cwricwlwm newydd. Ac mae hynny yn her. Rhaid felly ceisio deall beth yw’r ffactorau sydd yn arwain at ddiffyg defnydd o’r Gymraeg a chynllunio’r cwricwlwm yn fwriadol i gyd-fynd â hynny.

Erbyn hyn, mae ymchwil wedi ei gynnal led-led Cymru yn edrych ar agweddau plant a phobl ifanc tuag at y Gymraeg a Chymreictod, barn plant a phobl ifanc am y Gymraeg fel pwnc, a nodweddion ieithyddol siaradwyr sydd wedi eu magu ar aelwydydd Cymraeg, ar aelwydydd dwyieithog, ac ar aelwydydd di-Gymraeg. Yn gyffredinol, mae’r ymchwil yn dangos bod agweddau plant a phobl ifanc yn gadarnhaol iawn tuag at yr iaith – ei phwysigrwydd i Gymru, ei phwysigrwydd i Gymreictod, a’i defnyddioldeb ar gyfer y byd gwaith yma yng Nghymru. Ond nid yw hynny’n trosi’n ddefnydd o’r iaith ac felly nid yw magu agweddau cadarnhaol ynddo’i hun yn mynd i newid y drefn. Yr hyn sydd yn drawiadol o fewn yr ymchwil ydy agweddau’r plant tuag at eu sgiliau yn y Gymraeg a thuag at gyfyngder y Gymraeg fel iaith. Os am gymell plant i ddefnyddio ac i barhau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, rhaid cydnabod bod gwahaniaethau iaith am fodoli ar draws gwahanol fathau o siaradwyr – patrwm sy’n cael ei atgyfnerthu mewn astudiaethau ar allbwn iaith plant dwyieithog yma yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o’r byd – a dathlu pob ymgais i ddefnyddio’r Gymraeg. Mi fydd gan blant dwyieithog eirfa coll yn y Gymraeg (ac yn Saesneg), ond mae perygl o gamddehongli hynny fel arwydd o iaith annigonol neu fel arwydd nad oes modd trafod rhai pynciau yn y Gymraeg, gyda’r ffocws ar yr eirfa yn hytrach na’r cyfoeth o iaith sydd yn amgylchynu’r eirfa honno.  A dyma’r math o her sy’n ein wynebu o ran llunio cwricwlwm fydd â’r gallu i wrthdroi camsyniadau o’r fath.

enllibilingualteacherbookcoverwelshYn allweddol, felly, i lunio unrhyw strategaethau addysgol sydd â’u prif bwrpas o annog defnydd o’r Gymraeg a chyfoethogi sgiliau Cymraeg a Saesneg plant, rhaid bod ag ymwybyddiaeth gadarn o natur ac anghenion y disgybl dwyieithog. Ynghlwm â hyn mae’r angen i ysbrydoli plant am iaith ac am ieithoedd ac am fod yn ddwy- ac amlieithog – pwrpas iaith, patrymau iaith, tarddiad iaith, defnyddioldeb iaith a’r berthynas rhwng gwahanol ieithoedd. Ni fydd y cwricwlwm newydd yn defnyddio’r term Cymraeg ail iaith. Mae hyn yn mynd a ni un cam tuag at ddisodli’r grwpio artiffisial rhwng iaith gyntaf ac ail iaith; y gobaith yw y bydd hynny, o’i gyflwyno’n iawn, yn arwain plant o gefndiroedd di-Gymraeg i ystyried eu hunain i fod yn ddwyieithog ac i deimlo eu bod yn cael bod yn rhan o’r byd Cymraeg a’r byd dwyieithog. Ond i hynny weithio, rhaid cydnabod bod y Saesneg (neu unrhyw iaith arall) yn rhan annatod o’u hunaniaeth ddwyieithog a’u sgiliau iaith, neu ofer fydd unrhyw strategaethau addysgol sydd yn ceisio cymell plant i ymwneud â’r Gymraeg. Mae yna ddulliau addysgu dwyieithog hynod effeithiol fyddai’n briodol iawn i geisio cyfleu’r negeseuon hyn mewn gwahanol gyd-destunau. Pwrpas y llyfryn ‘Dulliau Addysgu Dwyieithog’ yw cynnig trosolwg cychwynnol o’r llenyddiaeth ryngwladol sy’n ymwneud â dulliau dysgu ac addysgu dwyieithog. Mae’r llyfryn yn adnabod cyd-destunau dosbarth ble mae natur ddwyieithog yn arwain yr addysgu, gan berthnasu’r arferion hynny i’r cyd-destun addysgol yma yng Nghymru, fel sydd yn nodweddiadol o brofiadau byw y dysgwr.

Un sylw ar “Deall dwyieithrwydd mewn addysg: un gwraidd i lwyddiant addysgu dwyieithog

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s