Defnyddio data a gwybodaeth i gefnogi hunanwerthuso, atebolrwydd a thryloywder – eich cyfle olaf i roi sylwadau ar argymhellion drafft.

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Rydym ni yn Social Finance wedi ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwil i anghenion y system ysgolion yng Nghymru o ran data a gwybodaeth a’u defnydd. Rydym wedi bod yn siarad â rhanddeiliaid ar draws y system ysgolion, i ddeall sut mae’r anghenion hyn yn wahanol ar draws grwpiau rhanddeiliaid, ar gyfer  tri phrif bwrpas sef chynllunio hunanwerthuso a gwella, atebolrwydd a thryloywder. Ein bwriad yw darparu’r dystiolaeth sydd ei hangen i helpu i adeiladu system gytbwys, lle mae data a gwybodaeth o ansawdd ar gael ac yn cael eu defnyddio’n effeithiol – mewn ffordd sy’n gweithio i ysgolion ac i randdeiliaid ehangach o fewn eu cyd-destunau unigryw.

Bydd y prosiect yn cefnogi’r gwaith o weithredu fframwaith newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwerthuso, Gwella ac Atebolrwydd, fel y nodir yn y canllawiau Gwella Ysgolion.

Hyd yn hyn rydym wedi ymgysylltu â nifer eang o randdeiliaid gan gynnwys; penaethiaid, dysgwyr, rhieni, Awdurdodau Lleol, Awdurdodau’r Esgobaeth, Gyrfa Cymru, , timau polisi Llywodraeth Cymru, Consortia Rhanbarthol, Estyn, a Cymwysterau Cymru, ymhlith eraill.

Rydym bellach yng nghamau olaf yr ymchwil hon ac wedi datblygu set o argymhellion drafft i’w profi gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys, yn bwysig, ysgolion.

Felly, hoffem wahodd eich ysgol i rannu eich barn ynghylch ein hargymhellion drafft drwy Weminar fyw.

Rydym yn gwahodd y rhai sy’n gweithio mewn ysgolion a darpariaeth amgen yng Nghymru i un o’n sesiynau ‘Gweminar Ecosystem Data’ byw i roi eu hadborth. Mae’r gwahoddiad yn agored i benaethiaid, i rai eraill sydd mewn rolau strategol ac arweinyddiaeth gan gynnwys llywodraethwyr, ac i staff addysgu ym mhob lleoliad a gynhelir yng Nghymru.

Ym mis Medi byddwn yn cynnal dwy weminar rithwir awr o hyd, lle byddwn yn cyflwyno ein hargymhellion. Bydd y rhain yn cael eu cynnal fel a ganlyn:

  • Sesiwn 1: 28/09/22 rhwng 17:00 ac 18:00
  • Sesiwn 2: 30/09/22 rhwng 10:00 a 11:00

Yn ystod y sesiwn, ar gyfer pob argymhelliad byddwn yn amlinellu:

  • Pwrpas y newid, gan gynnwys cyflwyno unrhyw ddata neu fath o wybodaeth newydd
  • Unrhyw newidiadau y gallai hyn eu cael ar sut rydych chi’n casglu, dadansoddi a chyfathrebu data ar lefel leol ar hyn o bryd

Ar ôl pob argymhelliad, byddwn yn cael saib i gasglu adborth drwy arolwg barn byw. Byddwn hefyd yn gofyn i chi gwblhau arolwg yn dilyn y sesiwn gweminar i gasglu unrhyw sylwadau pellach.

Y dyddiad olaf ar gyfer cwblhau’r arolwg dilynol fydd 19:00, 30/09/22.

Ar ôl i ni gwblhau ein hargymhellion, bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a’i gyhoeddi ar dudalennau we ymchwil Llywodraeth Cymru. Byddant yn ystyried ein hargymhellion a hefyd, maes o law, yn nodi ar gyfer rhanddeiliaid sut y byddant yn ymateb i’n casgliadau.

Os hoffech ymuno â’r weminar yna ewch i’r dudalen Digwyddiadau ar Hwb a mewngofnodwch i gofrestru. Dim ond y rhai sydd wedi cofrestru bydd yn gallu mynychu’r digwyddiad. Noder y bydd y sesiynau hyn yn rhedeg yn ddwyieithog.

Gyda diolch am sylw a gafwyda, allwn ni bwysleisio bod angen i ddefnyddwyr fewngofnodi i Hwb er mwyn ‘gweld’ y digwyddiadau hyn yn rhestru’r digwyddiad a chofrestru!

Grŵp Cyd-greu Camau i’r Dyfodol – Y cyfnod recriwtio (20 Medi)

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Wrth i’r flwyddyn academaidd newydd ddechrau, mae’r prosiect Camau i’r Dyfodol yn mynd i mewn i gam 2 y broses ymchwilio a chasglu tystiolaeth. Yr allwedd i’r cam newydd o weithgaredd yw ffurfio grŵp cyd-greu, yn cynnwys ysgolion ledled Cymru a phartneriaid y sector addysg ehangach, gyda chefnogaeth ymchwilwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow.

Bydd y grŵp yn tynnu ar brofiad yr ysgolion a’r partneriaid i ddatblygu ar y cyd ddulliau ac adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn gwella dealltwriaeth o gynnydd dysgwyr o fewn cyd-destun y cwricwlwm newydd. Bydd hyn yn cynnwys llywio Sgyrsiau y Rhwydwaith Cenedlaethol i’r dyfodol ar gynnydd ac asesu.

Rydym yn edrych am tua 30 ysgol, a fydd yn cynrychioli’r sector yma yng Nghymru, i gymryd rhan yn y grŵp. Mae croeso i bob ysgol wneud cais.

Gweler manylion llawn am y grŵp, ei weithgareddau a’r manteision o ymuno yn yr adran Cwestiynau Cyffredin isod. Os hoffai eich ysgol gymryd rhan, cwblhewch y ffurflen electronig hon.

Bydd y cyfnod recriwtio ar gyfer y grŵp cyd-greu yn cau ar 30 Medi.

Y Grŵp Cyd-greu – Cwestiynau Cyffredin

Beth yw’r prosiect Camau i’r Dyfodol?

Mae’r prosiect Camau i’r Dyfodol yn brosiect 3 blynedd ar y cyd rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect wedi’i gynllunio i ddatblygu gwybodaeth newydd ac i helpu i wireddu’r Cwricwlwm i Gymru trwy weithio gydag athrawon a phartneriaid addysgol ledled y system er mwyn cyd-greu allbynnau ar gyfer y prosiect a fydd yn datblygu dealltwriaeth ymarferol o gynnydd dysgwyr. Newid a arweinir gan y rhai sydd wrth wraidd y system sy’n darparu’r cyfle gorau ar gyfer rhannu arbenigedd, magu hyder, meithrin cydlyniad ar draws y system, a chefnogi gwahanol bobl a sefydliadau sy’n bwysig ym myd addysg yng Nghymru.

Mae Camau i’r Dyfodol yn brosiect ymchwil a fydd yn ceisio datblygu dealltwriaeth o gynnydd dysgwyr er mwyn bwydo hynny yn ôl i system addysg Cymru a chyfrannu at ddealltwriaeth genedlaethol a rhyngwladol.

Fel rhan o hyn, byddwch yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn gweithgaredd ymchwil fel rhan o’ch cyfraniad yn y Grŵp Cyd-greu. Eich penderfyniad chi fydd p’un ai i fod yn rhan o’r gweithgarwch ymchwil ai peidio, ac ni fydd eich penderfyniad yn dylanwadu ar eich cyfranogiad yn y grŵp Cyd-greu.

Mae’r prosiect Camau i’r Dyfodol wedi’i gynllunio i ddigwydd trwy bedwar cam. Bydd y grŵp cyd-greu yn dechrau gwaith Cam 2 yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23.

Beth yw diben y grŵp cyd-greu?

Parhau i ddarllen

Bydd y grŵp yn tynnu ar brofiad yr ysgolion a’r partneriaid i ddatblygu ar y cyd ddulliau ac adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn gwella dealltwriaeth o gynnydd dysgwyr o fewn cyd-destun y cwricwlwm newydd. Bydd hyn yn cynnwys llywio Sgyrsiau y Rhwydwaith Cenedlaethol i’r dyfodol ar gynnydd ac asesu.

Rydym yn edrych am tua 30 ysgol, a fydd yn cynrychioli’r sector yma yng Nghymru, i gymryd rhan yn y grŵp. Mae croeso i bob ysgol wneud cais.

Gweler manylion llawn am y grŵp, ei weithgareddau a’r manteision o ymuno yn yr adran Cwestiynau Cyffredin isod. Os hoffai eich ysgol gymryd rhan, cwblhewch y ffurflen electronig hon.

Bydd y cyfnod recriwtio ar gyfer y grŵp cyd-greu yn cau ar 30 Medi.

Y Grŵp Cyd-greu – Cwestiynau Cyffredin

Beth yw’r prosiect Camau i’r Dyfodol?

Mae’r prosiect Camau i’r Dyfodol yn brosiect 3 blynedd ar y cyd rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect wedi’i gynllunio i ddatblygu gwybodaeth newydd ac i helpu i wireddu’r Cwricwlwm i Gymru trwy weithio gydag athrawon a phartneriaid addysgol ledled y system er mwyn cyd-greu allbynnau ar gyfer y prosiect a fydd yn datblygu dealltwriaeth ymarferol o gynnydd dysgwyr. Newid a arweinir gan y rhai sydd wrth wraidd y system sy’n darparu’r cyfle gorau ar gyfer rhannu arbenigedd, magu hyder, meithrin cydlyniad ar draws y system, a chefnogi gwahanol bobl a sefydliadau sy’n bwysig ym myd addysg yng Nghymru.

Mae Camau i’r Dyfodol yn brosiect ymchwil a fydd yn ceisio datblygu dealltwriaeth o gynnydd dysgwyr er mwyn bwydo hynny yn ôl i system addysg Cymru a chyfrannu at ddealltwriaeth genedlaethol a rhyngwladol.

Fel rhan o hyn, byddwch yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn gweithgaredd ymchwil fel rhan o’ch cyfraniad yn y Grŵp Cyd-greu. Eich penderfyniad chi fydd p’un ai i fod yn rhan o’r gweithgarwch ymchwil ai peidio, ac ni fydd eich penderfyniad yn dylanwadu ar eich cyfranogiad yn y grŵp Cyd-greu.

Mae’r prosiect Camau i’r Dyfodol wedi’i gynllunio i ddigwydd trwy bedwar cam. Bydd y grŵp cyd-greu yn dechrau gwaith Cam 2 yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23.

Beth yw diben y grŵp cyd-greu?

Parhau i ddarllen

Ein taith ddysgu

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae diwedd y flwyddyn addysgol mewn prifysgol yn debyg iawn i ddiwedd tymor yr haf mewn ysgol: adeg o ffarwelio ac o deimlo balchder. Boed mewn meithrinfa neu addysg uwch, mae cael edrych yn ôl dros ddatblygiad eich dysgwyr yn ystod y flwyddyn a aeth heibio yn un o bleserau addysgu. Eleni, fel addysgwr addysg gychwynnol athrawon, mae fy myfyrdodau ddiwedd tymor yr haf wedi arwain at ymdeimlad o ryfeddod. Heb os, mae addysg yng Nghymru wedi datblygu llawer ers i mi hyfforddi i fod yn athrawes, ac mae’n gyfnod hynod gyffrous i’r garfan newydd hon o athrawon ymuno â’r proffesiwn.

Ledled Cymru, mae ein darpar athrawon wedi cwblhau eu cwrs TAR neu BA Addysg gyda SAC ar adeg neilltuol.  Ers nifer o flynyddoedd bellach, bu Cwricwlwm i Gymru ar waith mewn gwahanol gamau, ond o’r mis yma bydd y cwricwlwm newydd yn ‘swyddogol’ ar yr union adeg y daw’r myfyrwyr hyn yn athrawon ‘swyddogol’, fel petai.

I’r darpar athrawon hyn, mae ymdeimlad fod Cwricwlwm i Gymru yn rhywbeth cyfarwydd. Wedi’r cyfan, seliwyd eu haddysg athrawon ar bileri’r cwricwlwm fel ‘y Pedwar Diben’, ‘Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig’ a ‘Disgrifiadau dysgu’. I bob pwrpas, mae Cwricwlwm i Gymru yn rhan o bopeth maent yn ei wneud a’i feddwl ac, yn ddiau, gall addysg yng Nghymru elwa o’u safbwyntiau. 

Fel tiwtor prifysgol fu’n cefnogi’r garfan ddiweddaraf hon o ddarpar athrawon, roedd yn hynod ddiddorol eu clywed yn trafod sut mae ysgolion yn mynd ati i weithredu Cwricwlwm i Gymru. Yn naturiol, mae gwahanol ysgolion mewn gwahanol fannau ar hyd y daith o ymgorffori Cwricwlwm i Gymru o fewn eu cynllunio a’u haddysgu. Mae ysgolion hefyd yn cymryd gwahanol lwybrau ar hyd y daith honno. Canlyniad hyn yw trafodaethau cyfoethog yn y seminarau prifysgol, gyda’r myfyrwyr yn rhannu profiadau a syniadau ac, wrth ddilyn llwybrau TAR y Brifysgol Agored, ceir cipolwg o arferion addysg o bob cwr o Gymru.

Yn ogystal, yn ysbryd cylchred ddysgu Kolb (1984) (Ffigur 1), roedd yn wych gweld myfyrwyr yn adfyfyrio ar syniadau cyn arbrofi ac addasu yn eu lleoliadau ymarfer dysgu: syniadau megis sut mae ysgolion ymgorffori’r pedwar diben neu’n defnyddio eu cynefin fel ysbrydoliaeth wrth ddylunio’r cwricwlwm.

Mewnwelediad diddorol arall a gaf yn rôl y tiwtor prifysgol yw ystyried sut mae’r darpar athrawon a’u hysgolion ymarfer dysgu yn cysylltu theori ac ymarfer addysgol. Un o’r newidiadau mawr fu ym maes addysg yng Nghymru yw gwerthfawrogi rôl ymchwil o fewn ein gwaith addysgu, a dod i ddeall sut mae  Cwricwlwm i Gymru, megis y Cyfnod Sylfaen o’i flaen, yn seiliedig ar ymchwil ryngwladol. Mewn cyferbyniad llwyr, ychydig iawn o ymchwil addysgol neu gynnwys academaidd oedd o fewn fy nghwrs hyfforddi athrawon i. Bum mlynedd ar hugain yn ôl roedd addysg gychwynnol athrawon yn canolbwyntio’n bennaf ar bynciau ac addysgeg. Rhywbeth ar y cyrion oedd defnyddio canfyddiadau gwaith ymchwil er mwyn gwerthuso’n feirniadol. Mae’r diffyg sylw i waith ymchwil yn peri syndod erbyn heddiw. Heb os, bu yna gryn ddatblygiad!

Hyd yn oed wedi gorffen hyfforddi a threulio rhai blynyddoedd yn yr ystafell ddosbarth, roedd ystyried sut gallai ymchwil helpu i ddatblygu fy ymarfer yn yr ystafell ddosbarth yn parhau’n arfer estron. Fe gofiaf un pennaeth newydd a blaengar yn ceisio cyflwyno ei staff addysgu (gan fy nghynnwys i) i lyfrau ar ddatblygu addysg. Mae’n deg dweud, yn gyffredinol, ein meddyliau ni’r staff oedd “beth yn y byd sydd â hyn i’w wneud gyda’m dosbarth i?”. Yn raddol, gyda chymorth grantiau datblygiad proffesiynol a chyfleoedd datblygu gyrfa yn gysylltiedig ag ymchwil gweithredol, deuthum i ddeall sut roedd fy ymgysylltiad â phrosiectau ymchwil o fudd i’m disgyblion ac yn cefnogi eu datblygiad.  Erbyn heddiw, cyflwynir ein hathrawon dan hyfforddiant i bwysigrwydd a pherthnasedd ymchwil addysgol o’r cychwyn cyntaf.  Ar ben derbyn profiadau ymchwilio yn yr ystafell ddosbarth, fel rhan o’u hyfforddiant maent hefyd yn elwa o wybodaeth a dealltwriaeth eu mentoriaid o ddefnyddio ymchwil, a hynny yn sgil arferion Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu (YSD) (Ffigur 2).

Er bod creu amgylchedd ysgol sy’n gyfoethog o ran ymchwil yn cael ei bwysleisio ledled y DU (Adroddiad BERA-RSA, 2014),  byddai’n naïf awgrymu nad oes unrhyw rwystrau yn wynebu athrawon ar eu taith ddysgu broffesiynol, gydag effaith a phwysau dilynol Covid-19 ar staff ysgol yn enghraifft o hyn. Fodd bynnag, ers 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio’n ffurfiol yr angen am ddysgu proffesiynol ystyriol drwy lansiad y cynllun YSD – rhywbeth sydd hefyd yn cysylltu â’r cyntaf o bedwar amcan y cynllun gweithredu addysg Cenhadaeth ein Cenedl.

Wrth i Gwricwlwm i Gymru ddod yn statudol, rhan o’r weledigaeth yw bod dysgu proffesiynol yn chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu ein system addysg. Fel y noda’r OECD “Gall YSD newid ac addasu’n gyson i amgylcheddau ac amgylchiadau newydd wrth i’w haelodau, yn unigol a chyda’i gilydd, ddysgu sut i wireddu eu gweledigaeth” (OECD, 2018, t. 2).

Gellid dadlau bod rhaid i bob un sefydliad neu randdeiliad o fewn addysg yng Nghymru sicrhau ei fod yn ‘sefydliad sy’n dysgu’ os yw cyflwyniad Cwricwlwm i Gymru yn mynd i lwyddo.  Boed oherwydd sgorau PISA, newidiadau cymdeithasol neu gwricwlwm hen ffasiwn, roedd angen i addysg yng Nghymru newid. Er mwyn sicrhau llwyddiant Cwricwlwm i Gymru, dylai pob un ohonom ystyried y newid addysgol hwnnw fel taith, ac un garreg filltir yn unig ar hyd y daith honno yw’r mis Medi hwn.

Wrth i mi fyfyrio gyda rhyfeddod ar ddatblygiad addysg yng Nghymru hyd yn hyn, rwyf hefyd yn cydnabod fod mwy i’w wneud. Mae ein dysgu proffesiynol yn parhau: boed yn fyfyriwr, yn athro newydd neu’n athro profiadol; boed yn diwtor prifysgol, yn ymgynghorydd neu’n arolygydd. 

Bydd y dysgu proffesiynol hwn yn allweddol i sicrhau dyfodol llwyddiannus Cwricwlwm i Gymru. Ymlaen!

Cyfeirnodau:

Kolb, D. (1984) Experiential learning: experience as the source of learning and development. Englewood Cliffs, NJ: Prentice-Hall.

OECD (2018) Datblygu Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu yng Nghymru. Paris: Gweithredu Polisïau Addysg, Cyhoeddi OECD. Ar gael yn: https://hwb.gov.wales/api/storage/3d31eeb5-eab1-43bf-9ad1-60ddc59966c1/developing-schools-as-learning-organisations-in-wales-highlights_0-cy.pdf (Cyrchwyd 8fed Gorffennaf 2022).

__________________________________________________________________________________

Nerys Defis

Mae Nerys yn diwtor cwricwlwm ar raglen TAR Partneriaeth y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gyda chefndir mewn addysg gynradd, mae’n cefnogi myfyrwyr ar draws Cymru i hyfforddi fel athrawon a hefyd yn ymchwilio i ganfyddiadau o sut mae defnydd plant o dechnoleg yn effeithio ar iechyd a lles.

Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn disodli ‘Addysg Grefyddol’ o dan y Cwricwlwm i Gymru

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau ac yn orfodol i bob disgybl 3-16 oed. Mae’r elfen hon wedi’i datblygu i adlewyrchu dyheadau a phedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.

Dyma’r pwyntiau pwysicaf ynghylch cynllunio ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac addysgu’r elfen hon:

  • Wrth gynllunio ar gyfer y ffordd newydd hon o ymdrin â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg dylid dilyn gofynion dylunio cwricwlwm Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ar Hwb
  • Wrth ddylunio eu cwricwlwm, rhaid i ysgolion ystyried y maes llafur y cytunwyd arno yn lleol ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
  • Rhaid i’r elfen hon fod yn blwraliaethol, gan adlewyrchu’r ffaith bod traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn bennaf yn rhai Cristnogol ond gan ystyried dysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru
  • Rhaid hefyd adlewyrchu’r ffaith bod nifer o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol hefyd yn cael eu dal yng Nghymru
  • Rhaid i’r gwersi gael eu darparu mewn ffordd wrthrychol a beirniadol. Pan fyddant yn rhoi gwersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, rhaid i’r athrawon ddefnyddio dull diduedd nad yw’n annog plant na’i gwneud yn ofynnol iddynt fod yn grefyddol neu’n anghrefyddol nac i dderbyn safbwynt penodol
  • Ni all rhieni a gofalwyr ofyn am gael tynnu eu plant o’r gwersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Addysgu a defnyddio’r Gymraeg mewn ysgol cyfrwng Saesneg – enghraifft llwyddiannus

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Efallai nad Merthyr Tudful yw’r lle cyntaf i chi feddwl amdano os ydych chi’n am  ddod o hyd i angerdd dros y Gymraeg a’r mewnwelediadau diwylliannol sy’n deillio ohono.

Ond mae hynny’n newid diolch i’r tîm angerddol yn Ysgol Uwchradd Pen y Dre, sy’n ymateb i ofynion Cymraeg y Cwricwlwm i Gymru mewn ffordd gyfannol, gadarnhaol.

Mwynhewch eu hastudiaeth achos fer:

Ôl-sgript: Llongyfarchiadau i Mark Morgan a enillodd wobr ‘Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Uwchradd’ yn #GwobrauAddysguCymru2022 Llywodraeth Cymru ar ddydd Sul 10fed Gorffennaf! Gweler y seremoni lawn yma: https://www.facebook.com/educationwales/videos/professional-teachingawardscymru2022/571567811016683/

Yr Egwyddorion Cynnydd ar waith – creu cysylltiadau ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad – Ysgol y Strade.

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Yn ôl fframwaith Cwricwlwm i Gymru, mae’r egwyddorion cynnydd yn amlinellu’r gofynion gorfodol ar gyfer cynnydd i ddysgwyr. Maent yn disgrifio’r hyn y mae’n ei olygu i ddysgwyr wneud cynnydd, a’r galluoedd a’r ymddygiadau y mae’n rhaid i ymarferwyr geisio eu cefnogi, waeth beth fo’r cam datblygu i’r dysgwyr.

Wrth i ysgolion archwilio’r ffyrdd y mae’r egwyddorion cynnydd yn berthnasol i’w dysgwyr ar draws y continwwm 3-16, gallent ddefnyddio’r egwyddorion hyn i’w helpu i gynllunio’r cwricwlwm, eu trefniadau asesu, ynghyd â’u helpu i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd.

Alun Jones

Mae arweinwyr ac ymarferwyr Ysgol y Strade wedi bod yn archwilio sut mae’r egwyddorion cynnydd yn berthnasol i’w dysgwyr nhw. Wrth edrych ar gynnydd dysgwyr drwy gyfrwng yr egwyddorion cynnydd, heriwyd eu syniadau o safbwynt cynllunio’r cwricwlwm a’u trefniadau asesu. Mae’r egwyddorion hyn wedi cynnig iaith gyffredin a chyson iddynt wrth drafod cynnydd ar draws y cwricwlwm.

Gwelwyd un enghraifft o hyn yn ystod eu gwersi Gydol Oes (gwersi newydd i ddysgwyr bl.7 yr ysgol fel rhan o ddarpariaeth y MDaPh Iechyd a Lles.) Prif ddiben y gwersi dan sylw yw i ddatblygu sgiliau bywyd y dysgwyr, gan gynnwys eu sgiliau rhyngbersonol a chymdeithasol. Dechreuodd arweinwyr perthnasol yr ysgol ar y gwaith drwy drafod y sgiliau hanfodol a allai gefnogi’r garfan hon o ddysgwyr yn gynnar yn eu haddysg uwchradd; rhoddwyd cyfle i’r dysgwyr gynnig eu barn hefyd ynghylch pa sgiliau yr oeddent yn teimlo bod angen eu datblygu. O ganlyniad, dechreuodd y ddarpariaeth ar gyfer gwersi Gydol Oes trwy ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu y dysgwyr, ar lafar yn bennaf, er mwyn gwella eu hyder wrth siarad o flaen cynulleidfa.

Josh Williams – Cydlynydd Dysgu Gydol Oes
Mae disgyblion yn gwneud cysylltiadau naturiol ar draws meysydd dysgu ac yn magu hyder

Yn hwyrach yn y flwyddyn, wrth i’r ysgol fynd ati i gynnal eu gweithgareddau gwerthuso a gwella, daeth i’r amlwg bod y dysgwyr nid yn unig yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu hyder, ond eu bod hefyd yn gwneud cysylltiadau naturiol rhwng eu profiadau dysgu o fewn eu gwersi Gydol Oes ac ar draws eu gwersi Cymraeg a Saesneg (lle gofynnwyd iddynt baratoi cyflwyniadau a chyflawni tasgau rhyngweithio fesul grŵp). Yn ystod trafodaethau gyda’r dysgwyr, mynegodd y dysgwyr sut yr oeddent yn teimlo bod eu hyder yn datblygu, a bod hyn wedi caniatáu iddynt wneud cynnydd yn eu gwersi iaith. Amlygodd y sylwadau yma eu bod yn datblygu eu heffeithiolrwydd cynyddol fel dysgwyr. Yn ogystal, nododd athrawon o fewn y MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu eu bod nhw wedi gallu canolbwyntio ar fireinio sgiliau iaith y dysgwyr gan eu bod bellach yn llawer mwy parod i gyflawni’r tasgau dan sylw.

Mae’r ysgol yn teimlo bod hyn wedi rhoi cyfle iddynt ystyried cyfleoedd eraill i gefnogi cynnydd dysgwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd newydd ar draws eu cwricwlwm. 

Dyma astudiaeth achos o Ysgol y Strade:

Mae’r astudiaeth achos hon wedi’i hychwanegu at gasgliad newydd a chynyddol o ddeunyddiau ategol ar Hwb, a gynlluniwyd i helpu ysgolion i ddatblygu eu dulliau asesu a chynnydd.

Alun Jones,

Pennaeth cynorthwyol  sydd ar hyn o bryd ar secondiad fel cynghorydd proffesiynol i Lywodraeth Cymru.

Y Newyddion diweddaraf ar Hunanwerthuso Ysgolion, Atebolrwydd a Chynnydd

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae hon wedi bod yn flwyddyn ysgol galed, ond hefyd yn flwyddyn o gyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru wrth i’r Cwricwlwm a’r newidiadau ategol fagu sail gyfreithiol a’r adnoddau yn rhoi mwy o gig ar yr asgwrn. Mae hynny’n parhau yr wythnos hon, felly dyma grynodeb byr o’r hyn sy’n cael ei gyhoeddi, a beth y mae’n ei olygu i chi.

Y Fframwaith newydd ar gyfer Gwella Ysgolion a Chanllawiau

Mae’r Fframwaith hwn yn gwahanu hunanasesu a gwella oddi wrth atebolrwydd.

Mae’n cyflwyno system hunanwerthuso gadarn lle gall ysgolion nodi cryfderau yn ogystal â meysydd i’w gwella. Cefnogir yr hunanwerthusiad hwnnw gan yr ‘Adnodd Cenedlaethol: gwerthuso a gwella’ a phartneriaid gwella. Mae’r dull newydd yn annog adolygu gan gymheiriaid, ac mae dilyniant a lles dysgwyr yn ganolog iddo.

Bydd ysgolion yn cyhoeddi crynodebau o’u canfyddiadau hunanwerthuso a’u cynlluniau gwella ar eu gwefannau ar gyfer rhieni a gofalwyr. Bydd consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda phob ysgol i gytuno ar lefel y cymorth sydd ei angen arnynt, ac yn cadarnhau’r cymorth y byddant yn ei roi i Lywodraethwyr.

Dylai ysgolion eisoes fod yn cynnal proses hunanwerthuso fel rhan o’u prosesau rheolaidd i wella’r ysgol.

Atebolrwydd ac arolygiadau

Mae Categoreiddio Cenedlaethol wedi dod i ben, a bydd atebolrwydd yn cael ei gynnal drwy lywodraethu ysgolion ac arolygiadau mwy rheolaidd gan Estyn. O fis Medi ymlaen, bydd Estyn yn arolygu ysgolion o dan eu fframwaith newydd sy’n cefnogi’r Cwricwlwm newydd, gyda chynlluniau i gynyddu nifer yr arolygiadau o fis Medi 2024. 

Mae Estyn wedi gwneud newidiadau i’w ddull arolygu mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, gan gynnwys cyflwyno adroddiadau arolygu a fydd yn arwain at ddileu graddau crynodol. ac ychwanegu trosolwg allweddol o’r canfyddiadau sy’n canolbwyntio ar gryfderau ysgol a meysydd i’w datblygu.

Trefniadau Asesu – canllawiau diweddaraf sy’n adlewyrchu newid yn y ddeddfwriaeth

Yn unol â’r cwricwlwm newydd, mae’r ddeddfwriaeth a ddaw i rym ym mis Medi 2022 yn nodi sut y mae’n rhaid cynllunio trefniadau i asesu cynnydd ochr yn ochr â’r cwricwlwm, gyda gofynion ar ysgolion sy’n cynnwys: asesiad parhaus drwy gydol y flwyddyn ysgol i asesu cynnydd; nodi’r camau nesaf sydd ar y gweill; ac asesu’r dysgu a’r addysgu sydd eu hangen i helpu i sicrhau’r cynnydd hwnnw ar gyfer pob dysgwr.

Mae gofynion sy’n ymwneud ag asesu ar y dechrau, datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, a rhannu gwybodaeth â rhieni, i gyd wedi’u cynnwys mewn deddfwriaeth newydd.

Mae’r Canllawiau Asesu sy’n Cefnogi Cynnydd Dysgwyr a’r Crynodeb o’r Ddeddfwriaeth ar Hwb wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau deddfwriaethol.

Deunyddiau ategol ar gyfer y cwricwlwm, asesu a gwerthuso cynnydd dysgwyr

Mae deunyddiau ategol newydd wedi’u cyhoeddi i gefnogi’r cwricwlwm a’r trefniadau asesiadau mewn ysgolion a lleoliadau. Maent yn ychwanegu at ganllawiau’r Cwricwlwm i Gymru a chanllawiau newydd ar wella ysgolion, ac yn nodi cymorth ymarferol ar gyfer datblygu’r cwricwlwm, sicrhau ansawdd a hunanasesu.

Prosiect newydd i ddod â chymorth hirdymor ar gyfer Asesu a Chynnydd

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Wrth i’r Cwricwlwm i Gymru cael ei gyflwyno yn ein hysgolion, bydd angen dealltwriaeth ddofn o gynnydd ac asesu ar bob ymarferydd.

Bydd prosiect tair blynedd newydd, Camau i’r Dyfodol, nawr yn helpu ymarferwyr i feithrin y ddealltwriaeth ystyrlon honno, gan ei helpu i ddatblygu wrth i’r cwricwlwm datblygu. Lansiwyd y prosiect gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, y mis hwn, ac mae’n cyflawni ymrwymiad i sicrhau bod cefnogaeth genedlaethol barhaus ar gael er mwyn datblygu cynnydd ac asesu.

Jeremy Miles AS

Bydd y prosiect Camau i’r Dyfodol – Steps to the Future, sy’n cynnwys Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow, yn tynnu ynghyd arbenigedd a phrofiad y sector addysg i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd fel un ystyrlon, realistig a chynaliadwy ar gyfer pob dysgwr.

Mae sgyrsiau’r Rhwydwaith Cenedlaethol yn creu lle i ymarferwyr a phartneriaid  fyfyrio ar gynnydd ac asesu yng nghyd-destun eu harfer eu hunain, gan rannu eu profiadau a’r dulliau gweithredu, ac mae hyn yn rhan allweddol o waith y prosiect. Dechreuodd y gyfres gyntaf o sgyrsiau fis diwethaf, a bydd y rhain yn parhau yn y flwyddyn academaidd newydd.

Bydd y prosiect yn:

  • Tynnu ynghyd yr holl bartneriaid addysgol, o ysgolion a lleoliadau i Estyn, er mwyn iddynt rannau eu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd wrth iddynt ennill dealltwriaeth o gynnydd.
Parhau i ddarllen

Profi dulliau newydd o asesu a chynnydd – Ysgol Bontnewydd

Gweler neges debyg yn Saesneg

Bydd Asesu a Chynnydd yn edrych yn wahanol iawn dan y cwricwlwm newydd. Wrth wneud i ffwrdd â chyfnodau allweddol a phrofi yn eu herbyn, bydd y byd newydd yn gweld amrywiaeth o ddulliau asesu’n cael eu defnyddio.

Mae’n fater o newid diwylliant i lawer o ysgolion, taith o arbrofi a datblygu.

Mae Ysgol Bontnewydd wedi bod yn gweithio ar hyn ers peth amser, ac mae newid mewn sawl ffordd wedi cael ei groesawu!

Dysgwch am eu taith hyd yn hyn yn ein hastudiaeth achos fer:

Bydd yr astudiaeth achos hefyd yn cael ei hychwanegu at faes adnoddau newydd ar Hwb ddiwedd mis Mehefin, a gynlluniwyd i helpu ysgolion i ddatblygu eu dulliau asesu a chynnydd.

Wedi’i lansio ac ar gael i chi: Yr Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella

Gweler neges debyg yn Saesneg

Ar 11 Mai, lansiwyd adnodd i helpu ysgolion i hunanwerthuso a gwella. Byddai at ddefnydd pawb, ac roedd pawb wrth eu bodd.

Cyfrannodd sawl ysgol i’r gwaith o’i lansio ynghyd â chonsortiwm gwella ysgolion rhanbarthol GwE, partneriaeth gwella ysgolion y Gorllewin, ac Estyn.

Caiff digwyddiadau briffio rhanbarthol eu cynnal, ac mae hyfforddiant wedi’i drefnu ar gyfer Partneriaid Gwella Ysgolion rhanbarthol hefyd i’w helpu i ddefnyddio’r Adnodd.

Ceir enghreifftiau isod o fideos cymorth a ddefnyddiwyd i lansio’r adnodd. Gallwch wylio’r digwyddiad lansio 40 munud yn llawn yma.

Mae Owen Evans, Prif Arolygydd Estyn yn annog ysgolion i ddefnyddio’r Adnodd Cenedlaethol ar gyfer Gwerthuso a Gwella ac yn disgrifio sut roedd Estyn yn cefnogi ei ddatblygiad:

Parhau i ddarllen