Y tu hwnt i Covid: Adroddiad ‘Sgwrs Genedlaethol’ ar gael nawr

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Ym mis Mawrth, cynhaliwyd ‘sgwrs genedlaethol’ ar gyfer ymarferwyr drwy Gymru, er mwyn rhannu profiadau a dysgu, a helpu i lywio dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer symud ymlaen y tu hwnt i Covid.

Ymddangosodd y podlediad a’r adnoddau o’r digwyddiad yn ddiweddar ar y blog, ond erbyn hyn mae dadansoddiad o’r adborth o’r sesiynau, gan gynnwys natur y sgyrsiau, y themâu a’r casgliadau, bellach ar gael yn yr adroddiad hwn.

Trafod Addysgeg – lle gwych i ymchwilio i arferion addysgu

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Yn sgil y cwricwlwm newydd daw cyfleoedd newydd i ailedrych ar ein dulliau addysgu. Mae’n gyfnod cyffrous ond gall deimlo’n heriol hefyd. Felly mae ‘Trafod Addysgeg’ wedi cael ei greu fel man cyfeillgar i rannu a dysgu am ddulliau gweithredu addysgeg. Mae’n rhan o’r gefnogaeth ehangach ar gyfer dysgu proffesiynol.

Dyma Matt a Lucy yn esbonio sut y mae ‘Trafod Addysgeg’ yn gweithio iddyn nhw:

Cyfleoedd i ymuno

Dechreuodd Trafod Addysgeg gyda thrafodaethau grŵp bychain yn Nhymor yr Hydref. Ers hynny, mae wedi tyfu a newid i ddiwallu anghenion a diddordebau gwahanol. Mae rhan o’r twf hwn yn cynnwys digwyddiadau byw rheolaidd sy’n rhoi cyfle i glywed gan gydweithwyr a chynnal sgyrsiau ag eraill ar draws Cymru.

I gymryd rhan, cliciwch yma ar Trafod Addysgeg. Wedi i chi fynd i mewn, defnyddir y sianel Cyffredinol i roi’r newyddion diweddaraf i chi am weithgarwch sydd yn yr arfaeth a byddwch yn cael gwahoddiadau di-ofyn i unrhyw ddigwyddiadau newydd. Gallwch hefyd ddal i fyny ag unrhyw sgyrsiau a chyflwyniadau blaenorol sydd wedi’u recordio a’u gosod ar y sianel berthnasol. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau yn ymuno â’r sianel, a ddylai edrych fel y llun isod, e-bostiwch FordM44@hwbcymru.net

Parhau i ddarllen

Y tu hwnt i Covid: dysgu yn y cyfnod nesaf; podlediad ac adnoddau newydd!

Gweler neges debyg yn Saesneg

Ym mis Mawrth, cynhaliwyd ‘sgwrs genedlaethol’ ar gyfer ymarferwyr drwy Gymru, er mwyn rhannu profiadau a dysgu, a helpu i lywio dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer symud ymlaen y tu hwnt i Covid.

Roedd y sgyrsiau gwerthfawr, personol hyn yn onest iawn. Er mwyn rhannu naws a chanlyniad y trafod mae podlediad a fideos ategol.

Apple podcasts 

Spotify

Spreaker

Fideos gan addysgwyr blaenllaw

Parhau i ddarllen

Diwygiadau i Ganllawiau’r Cwricwlwm – Ymgynghoriadau

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Cafodd canllawiau’r cwricwlwm a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020 eu creu mewn partneriaeth ag ysgolion, gyda chefnogaeth arbenigwyr, dros nifer o flynyddoedd. Cawsant eu llywio hefyd gan broses ymgynghori helaeth yn 2019, ac roedd yr adborth o’r broses honno’n cyfeirio at yr angen am ganllawiau ychwanegol a rhai diwygiadau mewn meysydd allweddol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ymarferwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid wedi bod yn datblygu’r canllawiau ychwanegol a diwygiedig hynny ar y cyd, sydd bellach yn cael eu cyhoeddi at ddibenion ymgynghori.

Mae wyth maes yn rhan o’r ymgynghoriad, a fydd yn para am wyth wythnos tan 16 Gorffennaf. Unwaith y bydd yr adborth wedi’i ddadansoddi, bydd canllawiau’r cwricwlwm yn cael eu diweddaru a’u cyhoeddi mewn dwy gyfres – Medi a Rhagfyr – eleni.

Teitlau’r ymgynghoriad yw:

Yr is-ddeddfwriaeth gysylltiedig yw:

Amgueddfa Genedlaethol yn estyn allan gydag adnoddau cyfoethog

Gweler neges debyg yn Saesneg

Mewn blwyddyn arferol, byddai dros 200,000 o ddisgyblion Cymru a thu hwnt yn ymwneud â chynnig addysgiadol Amgueddfa Cymru. Yn 2020, gyda’n hamgueddfeydd ar gau am gyfnodau, bu’n rhaid meddwl am sut i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn gallu cael mynediad atom a sut orau i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru ‘o bell’.

Aethom ati i fuddsoddi mewn cyfarpar fyddai’n ein galluogi i gysylltu ag ysgolion dros Teams, sicrhau bod mynediad at ein casgliadau a datblygu cynnwys fyddai’n annog sgiliau ymholi a chwilfrydedd, gyda’r ffocws ar y Cwricwlwm i Gymru.

Mewn cwta dau fis, roedd dros 4,000 o ddisgyblion wedi cymryd rhan mewn un neu fwy o’n sesiynau rhithwir a’r ymateb iddynt yn wych. Dyma ymateb un athrawes i sesiwn ar y Celtiaid:

Mae’r Celtiaid Yn Dod!!! Laura Emanuel – athrawes Blwyddyn 3, Abertawe

Eleni, wedi sawl blwyddyn yn y Cyfnod Sylfaen, dwi wedi symud i Gyfnod Allweddol 2 (CA2). Roedd yn syniad cyffrous iawn, tan imi sylweddoli y bydden ni’n dysgu am ‘Y Celtiaid’! Roeddwn i’n bryderus iawn. Gan nad oeddwn i fy hun erioed wedi dysgu amdanyn nhw yn yr ysgol, doedd gen i ddim gwybodaeth am y pwnc na phrofiad o’i ddysgu. Archebais sawl llyfr ar-lein a darllen y rheiny, a ‘googlo’ ac ymchwilio gymaint â phosib. Roeddwn i’n dal yn nerfus iawn. Doeddwn i ddim yn siŵr sut i ddechrau’r pwnc na pa gyfeiriad i’w ddilyn. Roeddwn i’n awyddus i wneud cyfiawnder â’r peth, yn enwedig gan fod y pwyslais ar y cwricwlwm newydd yn hybu plant i fod yn ‘ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd’. “Mewn cyd-destunau cyfoes a hanesyddol, gall ymchwilio ac archwilio’r profiad dynol yn eu hardal eu hunain a gweddill Cymru, yn ogystal ag yn y byd ehangach, fod o gymorth i ddysgwyr ddarganfod eu treftadaeth a datblygu ymdeimlad o le a chynefin. Gall hyn hefyd hyrwyddo dealltwriaeth o’r ffordd y mae pobl Cymru, ei chymunedau, ei hanes, ei diwylliant, ei thirwedd, ei hadnoddau a’i diwydiannau yn cydberthyn i weddill y byd.”

Soniais wrth Leisa, o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, ein bod ni ar fin dechrau dysgu am y Celtiaid. O fewn munudau roedd hi wedi anfon posteri a dolenni at weithdai ar-lein am… y Celtiaid! Darllenais y wybodaeth ac roedd yn swnio’n wych. Dwi wedi ymweld â Sain Ffagan o’r blaen ac wedi cael amser gwych bob tro felly roeddwn i’n croesawu ac yn ymddiried yn unrhyw beth gan Amgueddfa Cymru! Soniais amdano wrth weddill staff CA2 ac roedden nhw i gyd yn awyddus i gymryd rhan. Yn unol â’r cyfarwyddiadau syml ar y dolenni a anfonodd Leisa, anfonais e-bost cyflym at Rachel. Ar yr un diwrnod cynigiwyd dyddiadau i ni ar gyfer gweithdai, rhoddwyd mwy o wybodaeth i ni, ffurfiwyd perthynas ac roedd yr hyder yn codi! Roeddwn i’n teimlo’n barod i ddechrau ar y pwnc, gan wybod bod arbenigwyr yn gefn i mi.

Parhau i ddarllen

Iechyd a Lles – ar gyfer disgyblion a staff yn Ysgol Gynradd Sant Illtyd

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae iechyd a lles bob amser yn bwysig, ac ni fu erioed yn bwysicach nag yn ystod yr heriau sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd fel gweithwyr proffesiynol. Mae gennym grwpiau o ddisgyblion ac aelodau staff i ffwrdd o’r ysgol gyda symptomau Covid neu’n hunanynysu, ac mae disgwyl inni addasu i hinsawdd sy’n newid o hyd. Felly, rhaid i les fod yn brif flaenoriaeth inni o ran ein staff, dysgwyr a’n cymunedau.

Yn ein hachos ni, fel llawer o brofiadau ysgolion ledled Cymru. Rydym wedi gorfod llywio ein ffordd drwy gau dri grŵp o ddisgyblion, ymgysylltu â dysgu o bell a chyfran uchel o’n staff craidd i ffwrdd o’r ysgol oherwydd yr heriau amrywiol sy’n gysylltiedig ag ymatebion i Covid. Mae’n her gydnabyddedig i’r proffesiwn cyfan ar hyn o bryd.

Y ‘newyddion da’ yn y stori hon yw ein bod wedi gallu parhau â’n ffocws a manteisio ar y gwaith rydyn ni’n ei wneud i ddatblygu Iechyd a Lles fel un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Mae hon wedi bod yn flaenoriaeth barhaus, a gydnabyddir gan bawb, i’n hysgol ac rydym wedi parhau i wreiddio arferion newydd drwy archwilio’r cwricwlwm newydd yn ystod y cyfnod hwn. Lles fu’r sbardun yn y ddarpariaeth hon, ac mae’r Meysydd Dysgu a Phrofiad cysylltiedig yn cefnogi ein nod gyda ffocws pendant ar y sgiliau trawsgwricwlaidd.

I ni, cynyddodd y momentwm i wreiddio darpariaeth lles gyfoethog yn 2018. Fe wnaethon ni sefydlu cymuned ddysgu broffesiynol gan gynnwys gwirfoddolwyr o blith aelodau cymuned yr ysgol ar wahanol lefelau.

Pam mae Lles mor bwysig yn Ysgol Gynradd Sant Illtyd?

O’n dadansoddiad cadarn o anghenion, barnwyd nad oedd gan ein dysgwyr ddigon o wytnwch, cymhelliant ac ymdrech – a hynny’n gysylltiedig ag ymyriadau i’w lles.  Sut ydyn ni’n gwybod? Dywedodd ein gwerthusiad cadarn a’n gwybodaeth o’n dysgwyr a’u cyd-destun wrthym fod angen i ni weithio’n arbennig o galed i ddatblygu ymdeimlad da o les ym mhob un o’n plant. Gan ddefnyddio’r wybodaeth leol hon a gwybodaeth berthynol, cafodd nodau a gweledigaeth y gymuned ddysgu broffesiynol eu cynnwys mewn datganiad gweledigaeth ar y cyd (gweler yn ddiweddarach), er mwyn gwella lles y gymuned yn Ysgol Gynradd Sant Illtyd. Defnyddiwyd y wybodaeth hon i ffurfio proffil dysgwr a elwir yn ‘We Lles’, sy’n cael ei egluro’n ddiweddarach yn y postiad hwn.

Parhau i ddarllen

Y Bil Cwricwlwm ac Asesu yn cael ei basio gan y Senedd

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) wedi cwblhau ei gam olaf yn y Senedd cyn cael ei basio’n gyfraith. Wedi iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol, a ragwelir ym mis Ebrill, bydd y Bil yn dod yn Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.

Disgwylir i Gwricwlwm Cymru gael ei gyflwyno o fis Medi 2022. 

Y llynedd, cyhoeddodd y Gweinidog gynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru yn nodi’r camau nesaf yn nhaith ddiwygio Cymru, cyn cyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Ochr yn ochr â chynllun gweithredu diweddaraf Cenhadaeth Ein Cenedl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen hefyd yn nodi ein disgwyliadau o’r hyn y bydd gwireddu’r cwricwlwm yn ei olygu i ymarferwyr ac ysgolion o 2022. Mae Cwricwlwm i Gymru: y daith i 2022 wedi’i greu i helpu ysgolion i baratoi ar gyfer cynllunio a gweithredu eu cwricwlwm. Ym mis Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu’r Cwricwlwm a fydd yn llywio’n gwaith ar y cyd â phartneriaid i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.

Mae hynt y bil yn golygu y gall ysgolion ac athrawon bellach fanteisio ar y cyfle i gynllunio eu cwricwla eu hunain i gefnogi teithiau datblygu a dysgu eu dysgwyr, gan weithio gyda rhieni a chymunedau, o fewn fframwaith sy’n gyson yn genedlaethol. 

Mae diwygiadau cyfochrog i gefnogi cyflwyno’r cwricwlwm hefyd wedi parhau, er gwaethaf pandemig COVID-19. Mae’r canllawiau ‘Atebolrwydd, Gwerthuso a Gwella’ newydd yn destun i ymgynghoriad, ac mae dysgu proffesiynol i gefnogi datblygiad y cwricwlwm ar lefel ysgol yn parhau i gael ei ddarparu dan arweiniad y Consortia a thrwy ddarparu sesiynau ac adnoddau rhyngweithiol ar-lein:

Ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu – Hwb (llyw.cymru)

Prosiect ymholi proffesiynol cenedlaethol – Hwb (llyw.cymru)

Prosiect addysgeg cenedlaethol – Hwb (llyw.cymru)

Georgina Haarhoff,

Dirprwy Gyfarwyddwr, cwricwlwm, Llywodraeth Cymru.

Ymarferwyr yn edrych y tu hwnt i Covid ac yn profi model ‘sgwrs genedlaethol’

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Y Gwanwyn hwn, cynhelir y ‘sgwrs genedlaethol’ gyntaf o’i bath lle bydd ymarferwyr yn trafod y gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig, sut i gefnogi dysgu yn y cam nesaf, a sut i sicrhau bod eu dysgwyr yn gwneud cynnydd. Bydd profiadau’n cael eu rhannu, a bydd y canfyddiadau’n helpu i lywio polisi cenedlaethol.

Bydd ffilmiau byrion i sbarduno’r sgyrsiau a fydd yn cynnwys yr academyddion blaenllaw Robin Bannerjee, Graham Donaldson, a Louise Hayward, ynghyd â Mike Griffiths, cyn ymarferydd sy’n cyfrannu’n helaeth at y gwaith o ddatblygu’r Cwricwlwm i Gymru.

Bydd y posibiliadau a’r cyfleoedd a gynigir gan y cwricwlwm newydd i lywio dulliau gweithredu ymarferwyr ar gyfer addysgu a dysgu yn y cam nesaf yn is-thema drwyddi draw.

Bydd cynrychiolydd o bob ysgol a lleoliad yn gallu cymryd rhan. Nid oes angen i’r person hwnnw fod yn uwch arweinydd, ond bydd yn gallu dod â’r un sgyrsiau yn ôl i’w hysgol a bwydo nôl o’r digwyddiad. Gellir trefnu lle drwy’r Consortia Rhanbarthol, a fydd yn ariannu pob cyfranogwr am 2.5 awr ar gyfer eu presenoldeb ac, yn bwysig iawn, i rannu’r hyn a ddysgwyd gyda chydweithwyr yn yr ysgol.

Yn anochel cynhelir y sgyrsiau ar-lein, a bydd ymarferwyr yn ymuno â grwpiau trafod rhithiol – gan ddwyn ynghyd syniadau a safbwyntiau mewn sesiynau a arweinir gan gyd-ymarferwyr.

Bydd y ‘sgyrsiau cenedlaethol’ hyn hefyd yn brawf defnyddiol ar gyfer gwaith i ddatblygu rhwydwaith cenedlaethol o ymarferwyr a rhanddeiliaid i wireddu’r cwricwlwm. Bydd y sesiynau’n rhoi cipolwg defnyddiol ar a’r hygyrchedd y gall digwyddiadau rhithiol eu cynnig, a sut y gallai model cyfuno o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithiol fod yn dempled ar gyfer rhwydwaith cenedlaethol.

Mae’r dyfyniad isod o’r briff i hwyluswyr ar y ‘sgyrsiau’ yn rhoi mwy o fanylion am yr hyn y mae’r sesiynau’n gobeithio ei gyflawni:

Parhau i ddarllen

Iaith Arwyddion Prydain fel rhan o Gwricwlwm Cymru – Ymgynghoriad

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae canllawiau newydd i helpu ysgolion i ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) wedi cael eu datblygu wrth ddylunio’r cwricwlwm. Maent ar gael i’w gweld yn awr ar ffurf ddrafft, a chynhelir  ymgynghoriad ar eu cynnwys tan 29ain Mawrth 2021.

Gellid addysgu BSL fel trydedd iaith neu iaith ddilynol, fel Ffrangeg neu Almaeneg, fel rhan o gwricwlwm ysgol ar gyfer pob plentyn, yn ogystal â darpariaeth BSL ar gyfer plant byddar a phlant trwm eu clyw.

Fel y gwelir ar y blog hwn ym mis Rhagfyr, bydd y canllawiau’n:

‘ … dangos sut y gall BSL gyfrannu at ddatblygiad dysgwyr tuag at bob un o bedwar diben y cwricwlwm. Gall, er enghraifft, annog dysgwyr i gamu y tu hwnt i ffiniau diwylliannol cyfarwydd a datblygu ffyrdd newydd o fynegi a thrafod ystyr mewn cymdeithas fyd-eang gynhwysol sy’n cynnwys pobl fyddar a phobl sy’n clywed gan fynd i’r afael â materion fel hawliau anabledd, ieithoedd lleiafrifol, cydnabyddiaeth o BSL a chyfathrebu trwy dechnoleg. Mae’r canllawiau ychwanegol yn cynnig cyfle i ddatblygu’r ddarpariaeth yng nghyd-destun diwygiadau addysg ehangach yng Nghymru, sy’n cynnwys tegwch, lles, addysgu ac arweinyddiaeth.’

Croesewir eich barn.

Mae fersiwn BSL o’r ymgynghoriad ar gael i YouTube.

Gweler hefyd: Cyfarwyddiadau ar gyfer cyflwyno ymateb ymgynghoriad iaith arwyddion Prydain.