Sut lwyddon ni i helpu i ddatblygu’r Hawl ar gyfer Dysgu Proffesiynol – a pham

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae’r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol yn ymrwymiad Gweinidogol i ddysgu proffesiynol ar gyfer pob ymarferydd. Ond mae’n bwysig nodi iddi gael ei datblygu ar y cyd gan y rhai hynny sy’n ymwneud â maes dysgu proffesiynol.

Mae dau o’r bobl hynny a oedd yn rhan o’r gwaith o’i datblygu ar y cyd, sef Dan Davies, Partner Arweiniol Dysgu Proffesiynol o’r Gwasanaeth Cyflawniad Addysg, a Clara Seery, Rheolwr Gyfarwyddwr Consortiwm Canolbarth y De, yn egluro eu rôl wrth ddatblygu’r Hawl, ac yn rhoi gwybod pam maen nhw’n teimlo ei bod yn bwysig, a beth maen nhw’n meddwl y gall yr Hawl ei gyflawni.

Clara Seery

Beth oedd cyfraniad Consortiwm Canolbarth y De at y gwaith o ddatblygu’r Hawl ar y cyd?

Buon ni’n hwyluso grwpiau o randdeiliaid ar y cyd â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod lleisiau gweithlu ysgolion yn ein rhanbarth yn cael eu clywed a’u defnyddio i lunio’r Hawl ar gyfer Dysgu Proffesiynol. Roedden ni’n awyddus i sicrhau y byddai’r hawl yn cefnogi arweinwyr, athrawon, cynorthwywyr addysgu, a’r consortia i wella canlyniadau ar gyfer pob dysgwr. Roedd Consortiwm Canolbarth y De, fel pob rhanbarth, yn gallu ystyried rolau a chyfrifoldebau’r haen ganol yn ofalus.

Pam mae’r Hawl yn bwysig i arweinwyr ysgolion?

Mae’r Hawl yn rhoi’r mandad i arweinwyr wireddu’r hyn rydyn ni’n ei wybod am bwysigrwydd dysgu proffesiynol.  Mae’n cefnogi sgyrsiau proffesiynol ynghylch sut y gallai dysgu proffesiynol edrych a’r ffordd orau i ennyn diddordeb gweithwyr proffesiynol. Mae’n hyrwyddo diwylliant o ddysgu proffesiynol parhaus i bawb yn unol â datblygu ein hysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu. Mae hefyd yn sicrhau bod yr arweinwyr eu hunain yn ystyried eu hawl, ynghyd â’r rhai y maent yn eu cefnogi, i gael mynediad at ddysgu proffesiynol

Sut bydd yr Hawl yn effeithio ar y ffordd y mae rhanbarthau a phartneriaethau yn gweithio?

Byddwn ni’n parhau i siarad ag arweinwyr ysgolion ac ymarferwyr i ddarparu cynnig eang a chytbwys ar gyfer dysgu proffesiynol sy’n cynnig pecynnau cymorth pwrpasol i alluogi ysgolion i fanteisio ar yr hyn sydd ei angen arnynt. Byddwn ni’n sicrhau bod ein staff i gyd yn ymwybodol o’r Hawl ar gyfer Dysgu Proffesiynol, gan hyrwyddo’r ffordd hon o weithio mewn ysgolion gydag arweinwyr a staff ar bob lefel.

Sut bydd yr Hawl yn gwneud gwahaniaeth go iawn?

Mae’r hyn y gall unrhyw newid polisi ei gyflawni yn seiliedig ar y ffordd y caiff ei weithredu.  Ac mae gan bob un ohonon ni ran i’w chwarae yn hynny o beth.  Os ydyn ni am gael system sy’n cefnogi dysgu proffesiynol trawsnewidiol fel norm, bydd yr hawl, a’r disgwyliadau sy’n rhan ohoni, yn cefnogi’r system i wireddu dyheadau’r diwygiadau.

Dan Davies:

Beth oedd eich rôl chi yn y gwaith o helpu i ddatblygu’r Hawl ar gyfer Dysgu Proffesiynol?

Fel rhanbarth, buon ni’n cydweithio i ddatblygu’r hawl ar gyfer dysgu proffesiynol gyda Llywodraeth Cymru. Roedden ni’n rhan o’r meddylfryd cychwynnol y tu ôl i’r hawl ac yn cynnig adborth ar ddrafftiau cynnar. Rydyn ni hefyd wedi bod yn rhan o rannu’r meddylfryd hwnnw ag ysgolion yn ein rhanbarth a’r tu hwnt. Rwy’n credu ei fod yn sbardun allweddol i allu gwireddu’r uchelgeisiau sydd wedi’u nodi yn y Cwricwlwm i Gymru.

Pam mae’n bwysig i bartneriaethau rhanbarthol?

Mae’r ddogfen yn arwyddocaol am ei bod yn pennu disgwyliadau clir ar gyfer unigolion, ysgolion, a rhanbarthau. Mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd dysgu proffesiynol i bawb sy’n rhan o’n system, ac yn cefnogi ein cynnig rhanbarthol. Mae’n ein herio ni i newid ein ffordd o feddwl rywfaint mewn perthynas â dysgu proffesiynol. Hynny yw, yn hytrach na’i fod yn rhywbeth sy’n cael ei wneud i ni, mae cyfrifoldeb arnon ni i arwain ein dysgu proffesiynol ein hunain. Bydd hyn, yn fy marn i, yn cael effaith gadarnhaol ar les ymarferwyr, ac yn rhoi ymdeimlad o foddhad iddyn nhw ynghylch eu gwaith. 

Beth mae’n ei olygu i ymarferwyr gan gynnwys cynorthwywyr addysgu?

Heb os, mae hyn yn rhywbeth cadarnhaol i bawb syn rhan o’r system addysg. Mae’n nodi’n glir beth mae gan weithwyr proffesiynol yr hawl iddo, a beth mae hynny’n ei olygu pan fydd hwnnw’n effeithiol iawn. Mae hefyd yn ein herio ni i fynd ati i fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol, a chynllunio ein dysgu ein hunain. Rwy’n arbennig o hoff o’r gair hawl gan ei fod yn rhoi mwy o rym i bwysigrwydd dysgu proffesiynol.

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd yn ei gyflawni?

Rwy’n cofio rai blynyddoedd yn ôl i gydweithiwr ddweud “nad oedd modd datblygu’r cwricwlwm heb ddatblygu’r bobl sy’n ymwneud ag e”. Roedd hyn yn taro deuddeg i mi ar y pryd ac yn dal i wneud synnwyr i mi heddiw. Os ydyn ni am ddatblygu system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol, yna mae’n rhaid i ni ddatblygu ein gweithlu addysg. Mae’r hawl yn rhoi dysgu proffesiynol ar frig yr agenda, ac rwy’n siŵr y bydd hwnnw’n cefnogi ein gallu i wireddu’r Cwricwlwm i Gymru a gwella canlyniadau i’n dysgwyr.

Gweler y rhaglen genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol o’n partneriaethau rhanbarthol yma.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s