Podlediad Newydd! Y Gweinidog yn ateb eich cwestiynau

Gweler neges debyg yn Saesneg

Roedd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn y sedd boeth ar gyfer y podlediad hwn. Mae’n ateb cwestiynau anodd gan athrawon am y cwricwlwm, anghenion dysgu ychwanegol, y flwyddyn ysgol a mwy.

Gwrandewch ar eich platfform dewisedig isod:

Apple podcasts 

Spotify

Spreaker

Neu ar gyfer unrhyw ffôn symudol, defnyddiwch y ‘ddolen hud’ hon.

Cyflwynwyd cwestiynau drwy gonsortia ond nid oedd amser i ofyn bob un yn ystod y podlediad. Gweler atebion cynhwysfawr isod i’r cwestiynau hynny nad oedd yn gallu cael eu cyflwyno’n uniongyrchol i’r Gweinidog.

C:   Dydy’r asesiad sylfaenol ddim yn cyd-fynd â chamau’r cwricwlwm. A fydd yn gweithredu’n annibynnol? Ydyn ni’n creu rhai ein hunain ar gyfer y Cyfnod Sylfaen?

  • Yn y Cwricwlwm i Gymru, bydd cynnydd plant 3-16 oed yn digwydd ar hyd un continwwm dysgu. Bydd angen i’r trefniadau asesu newydd sicrhau bod dysgwyr yn gwneud cynnydd ar gyflymder priodol ar hyd y continwwm hwnnw. Felly ni fydd cyfnodau a chamau o’r fath yn bodoli yn y cwricwlwm newydd.
  • Ar hyn o bryd, mae’r asesiad sylfaenol yn cael ei gynnal o fewn chwe wythnos gyntaf plentyn sy’n dechrau yn y dosbarth derbyn. Dydyn ni ddim yn credu bod y dull hwn yn cyd-fynd â’r ffordd newydd o gefnogi ac asesu cynnydd o 3 oed. Rydyn ni’n ymgynghori ar gynigion i gefnogi ac asesu cynnydd dysgwyr, sy’n cynnwys trefniadau ar gyfer ein dysgwyr ieuengaf.
  • Yn lle’r asesiad sylfaenol, rydym yn cynnig “asesiad dechreuol” ar gyfer pob dysgwr wrth gofrestru mewn ysgol neu leoliad. I’r rhan fwyaf bydd hyn yn digwydd yn ystod y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed
  • Ochr yn ochr â hyn, rydyn ni hefyd yn cynnig cynnal “asesiad dechreuol” pan fydd dysgwr yn mynd i ysgol neu leoliad newydd, sydd yn ystyried asesiadau blaenorol.
  • Bydd hyn yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o gryfderau ac anghenion dysgwr ac yn galluogi ymarferwyr i deilwra addysgu a dysgu i gefnogi cynnydd y dysgwr hwnnw o’r camau cynharaf.
  • Byddai gan ysgolion a lleoliadau hyblygrwydd o ran sut y cynhelir yr asesiad “dechreuol” hwn gan y bydd angen iddo gyd-fynd â’u cwricwlwm. Fodd bynnag, bydd angen iddo o leiaf asesu cynnydd dysgwr mewn llythrennedd a rhifedd, a hefyd ei les.
  • Er na fydd y Cyfnod Sylfaen bellach yn gwricwlwm statudol ar gyfer plant 3-7 oed o fis Medi 2022, rwy’n gwybod bod ymarferwyr y Cyfnod Sylfaen wedi gweithio’n agos iawn gyda ni i sicrhau egwyddorion y Cyfnod Sylfaen yn y cwricwlwm newydd. 
  • Fel y soniais, rydyn ni’n casglu adborth ar gynigion sy’n ymwneud â’r “asesiad dechreuol” fel rhan o ymgynghoriad ehangach ar is-ddeddfwriaeth i gefnogi’r trefniadau asesu newydd. Daw hyn i ben ar 31 Hydref ac rwy’n gwahodd pawb i rannu eu barn gyda ni drwy’r ffurflen ar-lein.

C:   A fydd fframwaith neu feini prawf safonol ar gyfer asesu? Yn enwedig ar gyfer adrodd i Awdurdodau Lleol neu Lywodraeth Cymru? Os na, a fydd ysgolion yn cael eu profi ar gywirdeb y system sy’n cael ei rhoi ar waith yn annibynnol?

  • Roedd sybsidiaredd yn un o’r cysyniadau allweddol wrth ddatblygu’r Cwricwlwm i Gymru, gan roi mwy o ryddid a hyblygrwydd i ysgolion gynllunio cwricwlwm sy’n briodol i’w dysgwyr yng nghyd-destun fframwaith cenedlaethol.
  • Wrth i ysgolion gynllunio eu cwricwlwm eu hunain, byddant hefyd yn rhoi trefniadau asesu priodol ar waith i gefnogi dysgwyr i wneud cynnydd mewn perthynas â’r cwricwlwm hwnnw.
  • Er mwyn sicrhau rhywfaint o gysondeb, a sicrhau tegwch i ddysgwyr ledled Cymru, mae’n hanfodol bod staff o fewn ac ar draws ysgolion a lleoliadau yn datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd. Byddaf yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion roi trefniadau ar waith i alluogi hyn. Bydd dealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn creu sylfaen gadarn ar gyfer asesu’r cynnydd hwnnw fel rhan sylfaenol o addysgu a dysgu.
  • Rydym yn dweud yn glir mai diben asesu yw cefnogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd. Wrth ddatblygu eu trefniadau asesu bydd yn rhaid i ysgolion fodloni’r gofynion cyffredinol rydym yn eu rhoi ar waith yn ogystal â rhoi sylw i Cefnogi Cynnydd Dysgwyr: Canllawiau Asesu. Fodd bynnag, yn ei hanfod, mater i’r ysgol fydd penderfynu sut i gefnogi cynnydd dysgwyr yn y ffordd orau o fewn eu cwricwlwm..
  • Ar hyn o bryd rydym yn casglu adborth ar is-ddeddfwriaeth arfaethedig i gefnogi’r trefniadau asesu newydd fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru. Disgwylir i’r ymgynghoriad ddod i ben ar 31 Hydref ac rwy’n eich annog i rannu eich barn â ni drwy’r ffurflen ar-lein.

Adrodd wrth awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru

  • Rydyn ni’n symud oddi wrth gwricwlwm yn seiliedig ar ganlyniadau a lefelau a chyfnodau allweddol, sydd wedi ein galluogi i gasglu a chydgrynhoi data asesu safonedig yn genedlaethol. Dydy hynny ddim yn nodwedd o’r cwricwlwm newydd. Bydd trefniadau asesu yn amrywio rhwng ysgolion, felly ni fydd casgliad cenedlaethol o ddata asesu parhaus.
  • Dylai’r wybodaeth a gesglir am gynnydd dysgwyr fod yn gymesur a dylai’r wybodaeth ond gael ei defnyddio yn yr ysgol i gefnogi cynnydd y dysgwyr a llywio’r addysgu yn uniongyrchol.
  • Mae adran asesu canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru yn dweud yn glir na ddylid defnyddio gwybodaeth asesu, gan gynnwys asesiadau personol ar-lein, i benderfynu ar berfformiad ymarferwyr nac ysgolion, nac ar gyfer unrhyw fath arall o atebolrwydd.
  • Rydyn ni’n gwybod y gall trefniadau gwerthuso a gwella ddylanwadu ar y canfyddiad o asesu a sut y caiff ei gynnal a dyna pam rydyn ni’n newid ein trefniadau gwerthuso a gwella fel eu bod yn cefnogi gwireddu Cwricwlwm i Gymru.

Ysgolion i adolygu eu cwricwlwm a’u trefniadau asesu

  • Mabwysiadu cwricwlwm o fis Medi 2022 fydd dechrau cyfnod parhaus o ddatblygu a mireinio’r cwricwlwm. Dylai’r cwricwlwm esblygu’n barhaus, gan ymdrechu i gyflawni disgwyliadau uwch, cefnogi llesiant yn well ac ymateb i anghenion newidiol dysgwyr, gyda chymorth arferion dysgu sy’n esblygu ac yn gwella.
  • Felly, bydd angen i ysgolion adolygu eu cwricwlwm, a’i ddiwygio os bydd angen, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i ddarparu ar gyfer cynnydd priodol. Bydd gwybodaeth a geir o’u trefniadau asesu yn hanfodol i’r broses hon.
  • Fel rhan o’r un broses, bydd angen adolygu trefniadau asesu yr ysgol hefyd a’u diwygio er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gefnogi cwricwlwm yr ysgol a chynnydd effeithiol i ddysgwyr.

Datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd

  •  Mae cynnydd yn agwedd sylfaenol ar gyfer cynllunio cwricwlwm ysgol, ac o ganlyniad, y trefniadau asesu. Er mwyn sicrhau cydraddoldeb a thegwch i ddysgwyr ledled Cymru, mae’n hanfodol sicrhau dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, gan gynnwys y disgwyliadau o ran y math o gynnydd, a pha mor gyflym y gall dysgwyr symud ymlaen.
  •  Bydd y gyd-ddealltwriaeth hon o gynnydd yn cael ei datblygu drwy ddysgu proffesiynol ac fel proses barhaus o fewn ac ar draws ysgolion – ac mae deialog broffesiynol yn agwedd sylfaenol ar hyn.
  • Dylai’r mewnwelediad a’r ddealltwriaeth a geir o ganlyniad i’r ddeialog broffesiynol hon lywio proses hunanwerthuso pob ysgol, gan helpu i ddiffinio blaenoriaethau’r dyfodol ar gyfer arweinyddiaeth, cynllunio’r cwricwlwm a dysgu ac addysgu.

Hunanwerthuso

  • Wrth wraidd y trefniadau gwerthuso a gwella mae hunanwerthuso effeithiol, sy’n gwneud cyfraniad hollbwysig at wella ansawdd addysg a safonau llwyddiant.
  • Bydd hunanwerthuso yn annog ysgolion i ystyried eu dulliau o gynllunio, datblygu a gweithredu eu cwricwlwm a’u trefniadau asesu. Bydd yn galluogi ysgolion i ddatblygu’r dysgu a’r addysgu ymhellach i sicrhau eu bod yn effeithiol o ran cefnogi cynnydd dysgwyr. Bydd y datblygiadau hyn, yn eu tro, yn cael eu hadlewyrchu mewn arferion dyddiol.
  • Bydd ysgolion yn gyfrifol am ddatblygu a defnyddio systemau i ystyried effeithiolrwydd y cwricwlwm newydd, addysgeg a threfniadau asesu a defnyddio’r ddealltwriaeth honno i wella.
  • Dylai gwybodaeth o drefniadau asesu chwarae rhan ganolog ym mhrosesau hunanwerthuso a gwella ysgol.
  • Mae datblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd yn rhan bwysig o broses hunanwerthuso ac adolygu ysgolion, gan y bydd canlyniadau’r trafodaethau ar draws a rhwng ysgolion yn helpu i werthuso a yw’r cynnydd yn cyd-fynd â’r gofynion cenedlaethol.

C: A fydd y Gweinidog yn dweud wrth rieni am y newidiadau i’r wybodaeth y mae’n ofynnol i ysgolion ei darparu? Mae sibrydion am dro pedol.

  • Dylai rhieni deimlo eu bod yn cael gwybod am addysg a chynnydd eu plant. Bydd ysgolion yn parhau i ddarparu gwybodaeth i’w cymunedau lleol, gan gynnwys adroddiadau i rieni, prosbectysau, adroddiadau llywodraethwyr a chynlluniau datblygu.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s