Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Yn Uned Cyfeirio Disgyblion Abertawe rydym yn addysgu dysgwyr o’r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4, y mae gan bob un ohonynt anawsterau cymdeithasol, emosiynol, iechyd meddwl neu anawsterau o ran ymddygiad. Mae effaith Covid-19 wedi arwain at rai o’r newidiadau mwyaf a chyflymaf i mi eu gweld erioed o ran beth yr ydym yn ei addysgu i’n disgyblion a sut yr ydym yn gwneud hynny. Dyma’r 6 mis mwyaf heriol sydd wedi fy wynebu yn fy ngyrfa.
Wrth i ni ddechrau’r flwyddyn ysgol 2020/21, mae angen i ni asesu sut mae digwyddiadau’r misoedd diwethaf wedi effeithio ar les ein disgyblion, a chynllunio ar gyfer sut y gallwn gefnogi eu lles, eu gwydnwch a’u hiechyd meddwl wrth inni symud ymlaen i’r flwyddyn nesaf., Nid oes modd i ni weld beth sydd o’n blaenau ychwaith.
Rydym wedi gwneud ein gorau i ymgysylltu â phob dysgwr, ac er nad ydym efallai wedi llwyddo gyda phob disgybl bob tro, rydym wedi dysgu cymaint yn ystod y broses. Mae’r strategaethau creadigol a ddatblygwyd gan athrawon a staff cyswllt yn ystod y cyfnod clo wedi bod yn ysbrydoledig. Mae’r angen arbennig wedi sbarduno ffocws ar drafodaeth, lles a llunio’r dysgu i ddiwallu anghenion ac amgylchiadau unigol ein disgyblion.
Bydd y flwyddyn academaidd newydd yn ein gweld yn gweithio gyda’n gilydd i weithredu’r amgylchedd dysgu ‘newydd’ mewn ymateb i Covid-19. Ond ochr yn ochr â hynny, rydym hefyd yn bwriadu symud i’n hadeilad pwrpasol newydd ar ddechrau 2021. Felly, mae pryderon a theimladau o bryder ar y naill law ac ymdeimlad o gyffro a chyfle ar y llall.
Cyn i mi ddweud rhagor wrthych am hynny, gadewch i ni edrych ar sut y bydd y cwricwlwm newydd yn helpu disgyblion yn Uned Cyfeirio Disgyblion Abertawe.