Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Annwyl Gyfaill,
Hoffwn ddiolch i chi am yr ymrwymiad a’r ymroddiad parhaus yr ydych yn ei ddangos i’n plant a’n pobl ifanc yng Nghymru.
Yn benodol, rwy’n deall bod graddfa’r gwaith diwygio’n sylweddol, ac rwy’n ddiolchgar y tymor hwn am eich adborth ar gwricwlwm drafft i Gymru.
Rwyf hefyd wedi bod ar draws y wlad i gwrdd ag athrawon presennol ac athrawon y dyfodol, penaethiaid, staff cymorth dosbarth, llywodraethwyr ysgolion, rhieni/gofalwyr, y gymuned fusnes a phlant a phobl ifanc i gael eu hadborth. Bydd eich adborth yn cael ei ddefnyddio yn awr i fireinio’r cwricwlwm drafft i Gymru, a fydd yn barod i’w gyhoeddi ym mis Ionawr 2020.
Rydym wedi dechrau ar newidiadau a fydd yn trawsnewid addysg yng Nghymru; newid sydd wedi ei gynllunio i roi’r addysg orau bosibl i’n holl blant a’n pobl ifanc mewn byd sy’n newid. Yn fuan, am y tro cyntaf yn ein hanes, bydd gennym ein cwricwlwm ein hunain a wnaed yng Nghymru. Cwricwlwm eang, cytbwys a chynhwysol sy’n cefnogi anghenion pob un o’n plant a’n pobl ifanc. Mae’n gwbl hanfodol ein bod yn ei fabwysiadu’n llwyddiannus, ac er mwyn cyflawni hyn rhaid inni i gyd fod yn barod.
Fy mwriad felly yw rhoi diwrnod HMS ychwanegol i bob ysgol bob blwyddyn am y tair blynedd nesaf. Bydd y diwrnod HMS hwn yn cael ei gynllunio’n benodol i roi mwy o amser i arweinwyr, athrawon a staff cymorth i ddysgu’n broffesiynol. Mae’r diwrnod HMS proffesiynol pwrpasol hwn yn rhan o becyn cymorth ehangach a gofnodir fel rhan o’n Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol ac a gefnogir gan £24 miliwn o arian ychwanegol ac adnoddau digidol, dwyieithog. Mae hyn yn amodol ar basio newidiadau rheoliadol yn llwyddiannus drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r ffordd rydym yn dal ysgolion a’r system i gyfrif yn newid hefyd i gefnogi’r cwricwlwm newydd. Bydd y trefniadau Gwerthuso a Gwella newydd yn deg; yn gydlynol; yn gymesur ac yn dryloyw. Bydd y rhain yn cynyddu hyder y cyhoedd drwy arolygu mwy rheolaidd a chraffu democrataidd effeithiol.
I gefnogi’r camau hyn, rydym yn dechrau symud i ffwrdd oddi wrth bwyslais anghymesur ar un neu ddau fesur perfformiad penodol at ddiwylliant lle mae ystod ehangach o ddangosyddion sy’n cwmpasu’r profiad dysgu cyfan yn well, lle bydd cynnydd pob dysgwr yn cyfrif a’n huchelgeisiau ar gyfer y cwricwlwm newydd a chenhadaeth genedlaethol yn cael eu hystyried. Bydd Steve Davies, Cyfarwyddwr Addysg Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu atoch i roi manylion pellach yn fuan.
Diolch eto am eich ymrwymiad parhaus i addysg ac rwy’n gobeithio y byddwch yn mwynhau gwyliau’r haf. Edrychaf ymlaen at fwrw ymlaen â’n Cenhadaeth Genedlaethol ar gyfer Addysg yng Nghymru gyda chi yn yr Hydref.
Yn gywir
Kirsty Williams AC/AM
Y Gweinidog Addysg
Minister for Education