Miliwn o siaradwyr Cymraeg – gallwn gyflawni hyn.

Read this page in English

Welsh in education Glyntaf schoolYn debyg i’r pleser o glywed baban yn dweud ei eiriau cyntaf, felly y mae sŵn plant a phobl ifanc yn magu hyder yn defnyddio’r Gymraeg. Pan fyddant yn dechrau cyfathrebu a mynegi eu hunain yn rhugl a meddu ar ymdeimlad llawn o ddiwylliant Cymreig, maent yn mwynhau’r cyfoeth a’r cyfleoedd a gynigir gan ddwy iaith Cymru ac yn atgyfnerthu eu hymdeimlad o hunaniaeth.

Mae llawer o dystiolaeth i awgrymu bod dysgu ail iaith yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgu a datblygiad unigolyn. Mae’n heriol a gall feithrin y gallu i ddysgu ieithoedd ychwanegol ac agor y meddwl i ffyrdd gwahanol o feddwl a gweld y byd. A gall fod yn hwyl hefyd.

Felly, mae llawer o resymau gwych pam y dylai plant a phobl ifanc anelu at fod yn fwyfwy dwyieithog… Ond mae hyd yn oed fwy o reswm dros ddysgu Cymraeg yng Nghymru: ein hiaith genedlaethol yw hi.

Mae Graham Donaldson yn deall manteision a gwerth dysgu a defnyddio Cymraeg fel elfen ganolog o’r cwricwlwm newydd yng Nghymru. Nododd yn benodol yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus y dylai pob plentyn a pherson ifanc allu defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg erbyn 16 oed. Felly, bydd Cymraeg fel iaith yn rhan o ‘Faes Dysgu a Phrofiad’ Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad sy’n ffurfio’r cwricwlwm newydd. Hefyd, disgwylir i’r iaith Gymraeg, hanes, llenyddiaeth a diwylliant fod yn thema drawsbynciol  ym mhob un o’r meysydd dysgu a phrofiad. Felly, mae hwn yn gyfnod cyffrous ar gyfer dysgu ac addysgu Cymraeg yn ein hysgolion.

Mae Addysg yng Nghymru: cenhadaeth ein cenedl hefyd yn nodi’n glir bod angen mabwysiadu dull trawsnewidiol o ddysgu, addysgu ac asesu’r Gymraeg. Yn ffodus rydym yn adeiladu ar sylfaen gadarn o addysgu a dysgu cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg sydd wedi galluogi cenedlaethau o blant i ddod yn rhugl yn y Gymraeg. Drwy gydweithio ag ysgolion, rhanbarthau a’r sector Addysg Uwch, gan gynnig cyfleoedd i rannu arfer effeithiol yn seiliedig ar ymchwil ryngwladol, rydym yn sicrhau bod ein hathrawon wedi’u paratoi i ddarparu’r profiadau dysgu gorau posibl ym mhob lleoliad.

Mae cydweithredu yn hyn o beth eisoes yn cynyddu. Ers mis Medi, mae athrawon Cymraeg ledled y rhanbarthau wedi bod yn cydweithio i gyflwyno cymhwyster TGAU Cymraeg ail iaith sy’n codi disgwyliadau o ran gallu dysgwyr i gyfathrebu yn Gymraeg. Mae clystyrau o ysgolion cynradd ac uwchradd hefyd yn cydweithio ar broses bontio effeithiol a dilyniant sicr o sgiliau iaith Gymraeg o’r blynyddoedd cynnar. Mae hyn yn bwysig wrth i ni weithio tuag at sicrhau un llwybr dysgu Cymraeg yn y cwricwlwm newydd.

Mae cynlluniau Siarter Iaith a Cymraeg Campus hefyd yn cefnogi’r broses newid hon, gyda mwy a mwy o enghreifftiau rhagorol o gynghorau ysgol yn mabwysiadu agweddau cadarnhaol a defnydd cynyddol o’r iaith Gymraeg mewn bywyd ysgol bob dydd.

Ond er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig wedi’u gwreiddio ym mhob agwedd ar fywyd ac ethos ysgol bydd angen i arweinwyr a llywodraethwyr ysgol fod yn berchen ar y weledigaeth, a mapio gallu ieithyddol y staff a meithrin gallu o fewn ysgolion gan ddefnyddio cynlluniau fel y cynllun Sabothol Iaith Gymraeg. Mae’n rhaid i arweinwyr ysgol o bob sector gydweithio yn strategol er mwyn gwneud gwahaniaeth.

Bydd y Cynllun Gweithredu Cymraeg mewn Addysg sy’n cael ei lansio heddiw yn rhedeg dros bedair blynedd i ddechrau, gyda disgwyliad clir y bydd angen cyfnod gweithredu pellach er mwyn inni wireddu ein gweledigaeth hirdymor. Mae’n cynnwys gweithio mewn partneriaeth â phob haen o fewn y system addysg. Mae’n cydnabod y bydd ymarferwyr, dros amser, yn cael cyfleoedd i wella eu sgiliau iaith Gymraeg o Addysg Gychwynnol i Athrawon ymlaen. Bydd hyn yn arwain at ragor o gyfleoedd i ymarferwyr weithio mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

Nid yw hyn yn ymwneud ag agenda ateb cyflym. Rhaid i newidiadau fod yn drawsnewidiol, pellgyrhaeddol a chynaliadwy. Rydym am newid agweddau ac arferion dros amser er mwyn sicrhau bod gan ein pobl ifanc yr hawl i siarad a defnyddio’r Gymraeg. Mae’n rhaid iddynt allu edrych yn ôl ac ystyried bod eu taith o ran yr iaith Gymraeg yn llwyddiant a theimlo’n falch o fod yn siaradwyr Cymraeg hyderus. Mae’n rhaid iddynt ddeall y gallant barhau i ddatblygu eu sgiliau drwy gydol eu bywydau. Rydym am iddynt ddefnyddio eu Cymraeg yn hyderus yn y cartref, yn y gymuned ac yn y gweithle.

Ein nod yn y Cynllun Gweithredu Cymraeg mewn Addysg yw sicrhau y caiff y sylfaeni sydd eu hangen er mwyn cyflawni’r newid – sef arweinyddiaeth, capasiti a seilwaith – eu hymgorffori fel y gallwn symud ymlaen tuag at ein nod cenedlaethol o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn hyderus. Gallwn gyflawni hyn gyda’n gilydd.

Katherine Davies, Ymgynghorydd Proffesiynol – Y Gymraeg mewn Addysg

Llun: Eluned Morgan A.C. Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s