Dyfodol Llwyddiannus? Myfyrdodau un o arloeswyr y cwricwlwm

Read this page in English

Emma Thomas blog pic

“Cyfrinach newid yw canolbwyntio eich holl egni ar adeiladu’r newydd yn hytrach na brwydro yn erbyn yr hen” – Socrates.

Roedd Dyfodol Llwyddiannus, a gyhoeddwyd yn 2015, yn addo dyfodol cyffrous newydd ym myd addysg yng Nghymru wrth iddo gyflwyno gweledigaeth Donaldson ar gyfer diwygio’r cwricwlwm yng Nghymru.  Roedd yn sylfaen i gwricwlwm ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a lywiwyd gan syniadau cenedlaethol a rhyngwladol.  Byddai’r cwricwlwm newydd hwn yn arloesol;  nid yn unig o ran ei argymhellion, ond hefyd y dull a fabwysiadwyd er mwyn newid y system addysg yng Nghymru.

Roedd Cymru’n gwneud datganiad beiddgar; roedd yn gwrthsefyll yr arloesi o’r brig i’r bôn arferol ac yn cynnig dull gweithredu ar sail sybsidiaredd a oedd yn fentrus, yn arloesol ac yn wahanol.  Datblygu cwricwlwm o’r ystafell ddosbarth tuag allan – manteisio ar greadigrwydd athrawon a rhoi’r rhyddid iddynt lunio a chyflwyno cwricwlwm a fyddai’n rhoi’r addysg orau i’n plant mewn byd sy’n newid.  Roedd yn amser ffarwelio â’r diffyg hyblygrwydd sydd wedi rhwystro’r dychymyg a llesteirio gallu athrawon i addysgu yn y gorffennol, a byddwn i’n un o’r athrawon lwcus a fyddai’n rhan o’r gwaith o greu’r newid hwn.  Cwricwlwm a lunnir yng Nghymru, i Gymru.

Yn ystod tymor yr hydref 2015, cafodd ein hysgol, Ysgol Gynradd Trallwn yn Abertawe, ei dewis yn “Ysgol Arloesi”. Er bod ystyr lythrennol y gair “arloesi” yn awgrymu treialu ac ystyried pethau newydd, roeddwn ychydig yn bryderus ynglŷn â beth yn union y byddwn yn ei wneud, a faint o ryddid a fyddai gennym fel “arloeswyr” mewn gwirionedd, oherwydd pwysau parhaus atebolrwydd.  Cefais fy siomi ar yr ochr orau.  O’r cyfarfod cyntaf un, roedd y neges yn glir y byddai athrawon wir yn ganolog i’r broses hon o ddiwygio’r cwricwlwm.  Ar y cyd â chonsortia, Estyn a swyddogion Llywodraeth Cymru, aethom ati i ymgymryd â’r dasg hynod gymhleth o ddechrau trosi Dyfodol Llwyddiannus yn gwricwlwm newydd cyffrous a heriol i blant a phobl ifanc Cymru.

Roedd grwpiau Llinyn 1 yn ystyried gwaith Dylunio Strategol y cwricwlwm newydd.  Er bod rhai problemau ar y dechrau, er enghraifft ysgolion yn ansicr ynglŷn â’u rôl ac yn gofyn am gyfeiriad strategol cliriach, roedd yr agweddau cadarnhaol yn llawer trech na’r agweddau negyddol.  Fel rhan o’r grŵp Cyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd, edrychais ar ffyrdd o ymgorffori Llythrennedd, Rhifedd a Chymwyseddau Digidol mewn modd trawsgwricwlaidd.  Wrth weithio yn y grŵp hwn, roedd y pwyslais ar rymuso ein pobl ifanc ar gyfer bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain yn amlwg iawn.  Roedd yr amser a dreuliais gyda chydweithwyr eangfrydig a chreadigol o bob cwr o Gymru ac o amrywiaeth o leoliadau yn amhrisiadwy ac yn gip ar yr hyn a oedd i ddod.  Gwnaethom gydweithio a chefnogi, datblygu a herio ein gilydd i dreialu ymarfer arloesol a oedd yn berthnasol i’n lleoliadau.  Cynhaliwyd sesiynau adborth i ddathlu llwyddiant ac, unwaith eto, gwelwyd athrawon yn siarad yn llawn angerdd am y profiadau addysgol roeddent yn eu cynnig i’w plant a phobl ifanc. Roedd eu brwdfrydedd yn heintus.

Erbyn dechrau Llinyn 2, gyda’r posibilrwydd o newid a brwdfrydedd athrawon yn y rheng flaen yn megino’r tân, roedd y broses ddatblygu wir yn dechrau mynd o nerth i nerth. Gan ystyried diwygio’r cwricwlwm yn fanylach i ategu prosiect CAMAU, aethom ati i werthuso tystiolaeth o wahanol ddulliau a chwricwla o bedwar ban byd, archwilio canfyddiadau ymchwil a myfyrio ar ein profiadau ein hunain a phrofiadau ein cydweithwyr.  Roedd cymharu damcaniaeth ac ymarfer yn y modd hwn, a threfnu’r egwyddorion, addysgeg a dilyniant a oedd, yn ein barn ni, yn rhan annatod o’n Maes Dysgu a Phrofiad, wedi bod o gymorth i ni wrth ystyried cwmpas a ffiniau Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

Gyda Llinyn 3 bellach ar y gorwel, beth sydd yn ein haros fel arloeswyr y cwricwlwm?  Mae cynnydd y rhaglen ddiwygio hyd yma wedi bod yn ddiddorol, yn galonogol ac wedi grymuso pobl.  Mae’r cyfleoedd i ystyried modelau cenedlaethol a rhyngwladol yn fanwl a chael amser i edrych ar wahanol ddulliau wedi bod yn allweddol wrth i ni lunio ein syniadau fel grŵp – ond, credaf fod rhai materion nad ydynt wedi’u datrys yn llawn eto a rhai meysydd i’w datblygu.  Er mwyn i ni fod yn gwbl effeithiol yn y gwaith o greu system sy’n gwella ei hun, mae angen i ni ddechrau ehangu ein gorwelion a manteisio ar greadigrwydd athrawon ac arweinwyr o bob rhan o Gymru, ac nid dim ond yn yr ysgolion hynny sydd wedi’u dewis yn “arloeswyr”.  Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau cyfraniadau ehangach yn y broses o ddatblygu ein cwricwlwm ar gyfer y dyfodol.  Rydym am i athrawon fod yn eiriolwyr dros y cwricwlwm newydd; rydym am iddynt gael eu hysbrydoli gan yr hyn a gaiff ei greu, a bod yn falch ohono.  Nid yn unig y mae’r newid rydym yn ei greu yn un ar gyfer ein myfyrwyr fel dysgwyr, ond mae hefyd yn un ar gyfer yr athrawon eu hunain fel dysgwyr yn y broses.  Mae cydweithio yn allweddol – dim ond gyda’n gilydd y gallwn adeiladu’r newydd.  Athrawon Cymru, mae ar eich gwlad eich angen chi.

Emma Thomas

Ysgol Gynradd Trallwn, Abertawe

Gorffennaf 2017

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s