Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol – Adnodd Anghenion Dysgu Proffesiynol

Read this page in English

blog-cy

Yn ôl yr addewid, mae adnodd hunanasesu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar gael erbyn hyn, ac mae’n gallu cyflawni swyddogaethau ychwanegol.

Mae sylwadau arloeswyr digidol a rhanddeiliaid eraill wedi bod yn hollbwysig wrth i ni ddatblygu’r Adnodd Anghenion Dysgu Proffesiynol, a gafodd ei ailenwi er mwyn adlewyrchu ei ddiben yn well. Mae’r adnodd wedi’i gynllunio i helpu ymarferwyr i nodi’r meysydd lle y maen nhw eisoes yn teimlo’n hyderus a’r meysydd y maen nhw’n teimlo bod lle iddyn nhw ddatblygu rhagor ynddynt. Mae gan yr Adnodd nodweddion fel swyddogaeth graddio â sêr, a thestun y gellir hofran drosto a fydd yn helpu ymarferwyr i benderfynu ar eu lefel. Fel ymarferydd eich hun, gallwch chi ddefnyddio’r adnodd nawr i weld ble yn union ydych chi arni o ran eich sgiliau digidol.

Fel Pennaeth, bydd gofyn am gael gweld dangosfwrdd eich ysgol yn rhoi golwg clir i chi o’ch anghenion dysgu proffesiynol. Bydd y dangosfwrdd yn rhoi crynodeb o wybodaeth ddienw ar gyfer eich ysgol gyfan, a bydd hefyd yn llywio’r gwaith o ddatblygu cymorth dysgu proffesiynol i ymarferwyr ac ysgolion.

Bydd yr Adnodd Anghenion Dysgu Proffesiynol newydd yn galluogi:

  • athrawon i asesu eu sgiliau a’u hyder drwy roi crynodebau penodol i’r cyfnod o elfen sgiliau’r Fframwaith
  • cydlynwyr y Fframwaith i gael cyfle i weld data dienw a gasglwyd i helpu i ddatblygu cymorth proffesiynol i staff
  • i weld data dienw a gasglwyd ac i’w defnyddio’n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, i lywio’r gwaith o ddatblygu cymorth dysgu proffesiynol i ymarferwyr ac ysgolion.

Gall pob athro ddefnyddio’r adnodd ar Hwb ond er mwyn gweld y crynodeb o’r data ar y dangosfwrdd ar gyfer eu hysgol bydd angen i benaethiaid ddilyn y camau hyn:

  • nodi’r aelodau priodol o’r staff sydd angen mynediad at ddangosfwrdd adrodd FfCD yr ysgol;
  • rhoi’r wybodaeth ganlynol ar e-bost a’i anfon o’ch cyfeiriad e-bost pennaeth ar hwbmail:
  1. Enwau defnyddiwr Hwb y staff a fydd angen mynediad
  2. Rhif AdAS yr ysgol, gan gynnwys cod yr awdurdod lleol (ee 671/XXXX)
  3. Datganiad gan y pennaeth yn awdurdodi’r defnyddwyr hyn i gael mynediad

Bydd y cais yn cael ei ddilysu wedyn a bydd neges yn cael ei hanfon yn cadarnhau mynediad at yr wybodaeth ar ddangosfwrdd yr ysgol. I sicrhau bod unigolion yn cael mynediad at ddata eu hysgolion eu hunain yn unig, gofynnwn i benaethiaid yn unig e-bostio CDSM yn gofyn am ganiatâd. Bydd angen i benaethiaid brofi yn yr e-bost eu bod yn bennaeth a bod yr unigolyn/unigolion y maent yn gofyn am ganiatâd ar eu rhan yn dod o’u hysgol nhw.

2 sylw ar “Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol – Adnodd Anghenion Dysgu Proffesiynol

  1. Fel tiwtor TAR ym mhrifysgol Aberystwyth, hoffwn gael mynediad i’r adnodd hwn er mwyn paratoi fy myfyrwyr yn well. Yn wir, hoffwn fedru cael mynediad i Hwb yn gyffredinol. Nid yw athrawon y dyfodol yn dod i arfer â defnyddio’r adnodd yn naturiol am nad oes gennym fynediad i’r wefan yma yn y brifysgol – er holi sawl gwaith. Sut mae datrys hyn? Sut mae sicrhau bod Hwb yn cael y defnydd gorau posib – a bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i’w lawn botensial?

    Hoffi

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s