Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae iechyd a lles bob amser yn bwysig, ac ni fu erioed yn bwysicach nag yn ystod yr heriau sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd fel gweithwyr proffesiynol. Mae gennym grwpiau o ddisgyblion ac aelodau staff i ffwrdd o’r ysgol gyda symptomau Covid neu’n hunanynysu, ac mae disgwyl inni addasu i hinsawdd sy’n newid o hyd. Felly, rhaid i les fod yn brif flaenoriaeth inni o ran ein staff, dysgwyr a’n cymunedau.
Yn ein hachos ni, fel llawer o brofiadau ysgolion ledled Cymru. Rydym wedi gorfod llywio ein ffordd drwy gau dri grŵp o ddisgyblion, ymgysylltu â dysgu o bell a chyfran uchel o’n staff craidd i ffwrdd o’r ysgol oherwydd yr heriau amrywiol sy’n gysylltiedig ag ymatebion i Covid. Mae’n her gydnabyddedig i’r proffesiwn cyfan ar hyn o bryd.
Y ‘newyddion da’ yn y stori hon yw ein bod wedi gallu parhau â’n ffocws a manteisio ar y gwaith rydyn ni’n ei wneud i ddatblygu Iechyd a Lles fel un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Mae hon wedi bod yn flaenoriaeth barhaus, a gydnabyddir gan bawb, i’n hysgol ac rydym wedi parhau i wreiddio arferion newydd drwy archwilio’r cwricwlwm newydd yn ystod y cyfnod hwn. Lles fu’r sbardun yn y ddarpariaeth hon, ac mae’r Meysydd Dysgu a Phrofiad cysylltiedig yn cefnogi ein nod gyda ffocws pendant ar y sgiliau trawsgwricwlaidd.
I ni, cynyddodd y momentwm i wreiddio darpariaeth lles gyfoethog yn 2018. Fe wnaethon ni sefydlu cymuned ddysgu broffesiynol gan gynnwys gwirfoddolwyr o blith aelodau cymuned yr ysgol ar wahanol lefelau.
Pam mae Lles mor bwysig yn Ysgol Gynradd Sant Illtyd?
O’n dadansoddiad cadarn o anghenion, barnwyd nad oedd gan ein dysgwyr ddigon o wytnwch, cymhelliant ac ymdrech – a hynny’n gysylltiedig ag ymyriadau i’w lles. Sut ydyn ni’n gwybod? Dywedodd ein gwerthusiad cadarn a’n gwybodaeth o’n dysgwyr a’u cyd-destun wrthym fod angen i ni weithio’n arbennig o galed i ddatblygu ymdeimlad da o les ym mhob un o’n plant. Gan ddefnyddio’r wybodaeth leol hon a gwybodaeth berthynol, cafodd nodau a gweledigaeth y gymuned ddysgu broffesiynol eu cynnwys mewn datganiad gweledigaeth ar y cyd (gweler yn ddiweddarach), er mwyn gwella lles y gymuned yn Ysgol Gynradd Sant Illtyd. Defnyddiwyd y wybodaeth hon i ffurfio proffil dysgwr a elwir yn ‘We Lles’, sy’n cael ei egluro’n ddiweddarach yn y postiad hwn.
